Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY VSGRIFENNAF y nodiadau hyn cyn cychwyn i Gynhadledd Flynyddol y WEA yn Whitley Bay. Cyn y gwelir hwynt mewn argraff, disgwyliaf y byddaf wedi cyfarfod â nifer o gyn- rychiolwyr o Ogledd Cymru a chyfnewid syniadau â hwynt. Gwaetha'r modd, yn y Gynhadledd Flynyddol yn unig y caiff cynrychiolwyr y Gogledd a'r De gyd-gyfarfod a thrafod y pynciau a'r anawsterau sydd yn gyffredin iddynt. Byddai'n ardderchog o beth petai cynrychiolwyr Canghennau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn cyfarfod mewn Cynhadledd Fwrw Sul rywle yng Nghymru. Y mae llawer o bynciau sydd yn arbennig i Gymru y byddai o fudd inni eu trafod gyda'i gilydd. Y mae gwir angen am fwy o gyfeillachu ac undeb rhyngom. Lle prysur iawn ydyw Swyddfa'r Rhanbarth ar hyn o bryd- Ysgrifenyddion Canghennau yn galw am ddosbarthiadau, y teleffon yn canu bob munud, a gofyn cwestiynau fel y rhain- Oes gennych-chi ddosbarthiadau mewn gwaith coed ?-mewn cemeg ?-mewn gwaith gwnio ? — ac felly ymlaen. Yn ôl pob golwg, bydd y Rhabarth yn cynnal rhaglen drom iawn o ddos- barthiadau y tymor nesaf yma. Dechreuodd rhai o'r Canghennau ar waith y gaeaf eisoes. Rhoes T. Hughes Griffiths ddarlith agoriadol fyw iawn ar y Sefyllfa Gydwladol i aelodau Cangen Pontardulais Nos Sadwrn diwaethaf. Yr un amser, yr oedd Cangen Treforus wedi trefnu trafodaeth gyhoeddus ar y cwestiwn, A ddylai Cymru gael Hunan- lywodraeth ? Y ddau brif siaradwr oedd y Cynghorydd Wynne Samuel, Ystalyfera, golygydd y Welsh Nationalist ers deng mlyn- edd, a Jack Edwards, Hwlffordd, golygydd y Pembroke County Clarion. Llywyddwyd gan J. S. Fulton, Prifathro Coleg y Brif- ysgol, Abertawe. Cafwyd trafodaeth ragorol. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf pwyllgor newydd y WEA, sef Pwyllgor Cynghorol yr Undebau Llafur, a chafwyd cynulliad da. Ar Fedi 30 a Hydref 1, cynhaliwyd Ysgol Fwrw Sul y WETUC, yng Nghastell Dunraven. Rhoes Iwan Morgan gyfres o ddarlith- iau ar y Sefyllfa Gydwladol Bresennol. Yr oedd yno 80 0 fyfyrwyr.