Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Blodeugerdd o Englynion, wedi eu casglu gan Aneirin Talfan Davies. Llyfrau'r Dryw. 2/6. Clawr lliain, 3/6. Sonedau a Thelynegion, gan William Jones. Gwasg Aberystwyth 4/ Aeth Blodeuglwm o Englynion W. J. Gruffydd a Y Gelfyddyd Gwta T. Gwynn Jones yn anodd iawn i'w cael, ac y mae hynny'n unig yn ddigon o reswm dros groesawu'r casgliad diweddaraf hwn o englynion. Un peth a rydd arbenigrwydd i gasgliad Aneirin ap Talfan yw ei fod yn cynnwys englynion arobryn yr Eisteddfod Gened- laethol 0 1900 hyd 1947. Y mae'n hwylus iawn fod y rhain i'w cael bellach gyda'i gilydd mewn cyfrol rad. Trefnwyd y casgliad dan y penawdau a ganlyn Angau a'r Bedd, Bywyd, Hiraeth, Crefyddol, Adfeilion, Natur a'r Tym- horau, y Ddoethineb Hon, Ffraethineb, Amrywiol, Englynion yr Eisteddfod. Yn wir, y mae'r amrywiaeth hon yn gwrth- ddweud sylw'r casglydd yn y Rhagymadrodd mai priod waith yr englyn yw cofnodi marwolaeth a choffáu'r meirw." Beth bynnag a ddywedir am darddiad yr englyn o'r epigram marwnadol, aeth yr englyn fel y gwyddom ni amdano'n ffurf briodol ar unrhyw ddeunydd y gellir ei fynegi'n gryno a chynnil. Y mae Rhagymadrodd y casglydd yn un gwerthfawr. Ond gan mai sgrifennu i'r newyddian yn fwyaf neilltuol a wna, tybiwn y gallai fod wedi hepgor pethau fel y drafodaeth ar ddyled Gerald Manley Hopkins i'r Gynghanedd, a rhoddi mwy o sylw i ffurf yr englyn-pwnc a ystyrir tua diwedd y Rhagymadrodd. Dywed- wn hynny oherwydd ar y mater hwn, heblaw'r Gynghanedd hithau, y cais y newyddian oleuni. Y mae'r adran hon o'r Rhagymadrodd yn rhy anghyflawn o lawer iawn. Yn wir, y mae'n brentisaidd. Dywaid y casglydd, er enghraifft, fod yr ail linell mewn englyn bob amser yn gorffen ag acen ysgafn." Nid yw hyn yn gywir. Er bod yr aü UneU ym mwyafrif mawr ein henglynion yn gorffen â sillaf ddiacen, oher- wydd yn bennaf fod cyflawnder o eiriau lluosill yn yr iaith, nid ystyr hynny yw mai dyna'r rheol. Gall diweddeb yr ail linell mewn englyn fod yn air acennog pan fo'r Gorwant ar y drydedd neu'r bedwaredd sillaf. Dyma, er enghraifft, Doddaid Byr gan Guto'r Glyn Gwae'r gwan da'i oedran, nad edrych-na chwardd, Na cherdda led y rhych.