Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gadael Tir, cyfaddasiad o Outward Bound Sutton Vane, gan Janet Evans. Yr Inspector, trosiad o The Inspector Calls J. B. Priestley, gan Arthur Morris Jones. Samuel French. 3 /6 yr un. Cyhoeddwyd Outward Bound Sutton Vane yn nofel i gychwyn, ac yna gwneud drama a ffilm ohoni; Cyfieithodd R. Williams Parry y ddrama i'r Gymraeg ryw ugain mlynedd yn ôl, neu fwy, o dan y teitl Gadael Tir, ac fe'i hactiwyd gan Gymdeithas Ddrama Coleg y Brifysgol, Bangor. Y mae gennyf gopi teipiedig o'r cyfieithiad hwnnw, a bûm yn rhyfeddu laweroedd o weithiau na chawsai ei gyhoeddi'n llyfr. Ond yn awr dyma gyfieithiad new- ydd, neu gyfaddasiad, o waith Janet Evans, o dan yr un teitl. Y mae cymharu'r ddau gyfieithiad fel ceisio beirniadu cyn- hyrchion Eisteddfod, a chwilio am y pethau y mae'r naill a'r llall yn rhagori ynddynt. Ond gwaith Miss Evans yn unig sydd gennyf i'w adolygu yn awr. Cyfieithiad da, ac un rhwydd iawn i'w lefaru ar lwyfan-braidd ormod, os yr un, o eiriau Saesneg wedi eu gadael heb eu newid. Cysgod tafodiaith y De sydd arno, megis y mae cysgod tafodiaith y Gogledd ar gyfieithiad Williams Parry, ond gwaith bychan fyddai ei gyfaddasu ar gyfer ei actio yn y Gogledd. Cwtogwyd cryn dipyn yma ac acw wrth gyf- addasu," yn gelfydd y rhan amlaf, ond yn anghelfydd ambell dro collwyd rhai pwyntiau gwych yn arholiad Mrs. Cliveden- Banks a Thom Prior, er enghraifft. Drama debyg i Gwerthoedd D. T. Davies ydyw hon, yn dangos y newid gwerthoedd a geir yng ngoleuni byd arall." Cwmni bychan cymysg o bobl yn eu cael eu hunain ar fwrdd llong, ac yn dyfod i ddeall bob yn dipyn eu bod wedi marw, ac mai ar eu ffordd i'r byd arall y maent-" i'r Nefoedd, [ac i Uffern hefyd, yn yr un man y mae'r ddau le." Dadlennir eu cymeriadau-ffug- gymeriadau rhai-yn eu hymddiddan ar y fordaith, a daw'r gwir amdanynt i'r golwg yn yr arholiad wedi cyrraedd y lan. Y mae'r ymddiddan yn fywiog a diwastraff, a'r dadlennu yn llawn o funudau dramatig. Ni fyddaf yn gwrando ar Saturday Night Theatre ar y radio yn aml iawn, am na allaf hepgor yr amser. Ond un Nos Sadwrn cyrhaeddais y ty toc wedi naw, a throi nobyn y radio i glywed beth oedd- arno. Drama Saesneg ydoedd, ac yr oeddwn ar firi troi'r nobyn yn ei ôl, gan fod gennyf lawer o waith o 'mlaen,