Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFARWYR HANNER CANRIF GAN DAFYDD JENKINS UN o'r darnau mwyaf diddorol yn llyfrau cyfraith Hywel Dda yw hwnnw sy'n rhoi'r rheolau ynglŷn â chyfar-hynny yw, cyd-aredig. Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, mae'n debyg fod cryn ddefnyddio ar yr aradr ysgafn a dynnid gan ddau ych ond 'roedd hefyd ddefnyddio ar yr aradr fawr olwynog, ac i dynnu honno yr oedd angen chwech neu wyth o ychen. Ni allai'r tyddynnwr unigol-er ei fod yn arddel yr enw urddasol uchelwr — fforddio'r aradr a'r wedd fawr honno ei hun, a heblaw hynny yr oedd angen dau ddyn i weithio gyda'r wedd, un rhwng cyrn yr aradr ac unyn gofalu am yr ychen, gan gerdded lwrw'i gefn o'u blaen a galw arnynt. Nid oedd ond un ffordd amdani, sef cydweithrediad rhwng cymdogion fe ddeuai un â'r aradr bren, un arall â'r swch a'r cwlltwr haearn, eraill â phob ei ych, ambell un efallai â dau ych, a rhoddai eraill eu gwasanaeth fel amaeth a geilwad. Mae'n hawdd gweld bod digon o Ie i anghydfod godi rhwng y cyfarwyr, ac mae'r rheolau a ddatblygwyd gan wyr y gyfraith yn eithaf manwl. Beth oedd trefn yr aredig i fod ? Erw'r amaeth yn gyntaf, beth bynnag yr oedd hynny'n bwysig, am mai âr honno oedd y safon i'r lleiIl-ni allai neb gwyno ar waith yr amaeth ar ei dir ef, os oedd hwnnw cystal â'r gwaith a wnaethai ar ei dir ei hun. Beth os byddai un o'r ychen yn marw cyn gorffen y gwaith ? Beth os byddai un o'r cyfarwyr yn dymuno aredig tir garw, neu dir a oedd ymhell iawn oddi wrth y gweddill ? Beth os byddai'r ddau weithiwr yn gwneud cam â'r ychen ? Mae atebion i'r cwestiynau hyn i gyd yn yr hen lyfrau cyfraith. Mae llawer tro ar fyd er y dyddiau pell hynny, a llawer tro ar amaethyddiaeth Cymru ond mae cydweithrediad rhwng am- aethwyr heddiw mor bwysig ag erioed, er iddo newid ei ffurf dipyn, a maes ei wasanaeth hefyd. Fe wyr pawb a wyr rywbeth am ffermio yng Nghymru am y ffordd y bydd gwahanol ffermydd yn cydweithio ar ddiwrnod cneifio a diwrnod dyrnu fe fu adeg yr oedd cydweithio yn y cynhaeaf yn anhepgor, cyn i beiriannau ddod i gyflymu cymaint ar rannau o'r gwaith. Ond heddiw mae i gydweithrediad ystyr fwy cyfyng yn ogystal â'r ystyr gyffredinol mae cymdeithas gydweithredol" yn ffurf ar gorfforaeth a gydnabyddir gan y gyfraith­ac mae'r cydweithrediad ffurfiol