Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Fflorens I-gem dyfais y canrifoedd mud- Hwyl wen ar lasfor a heulwen ar hud- A chwennych dy galon ryw fro fwy ei bri ? Meca holl dduwiau celfyddyd yw hi. Mea dolores Mea doíores Ni phyla'r fflam yn dy lygaid prudd Ogoniant y rhosyn sydd ar dy rudd Ni phyla. Ei gwmni'n fwy cyson a gaf Na chwmni sidanros haul-lwybrau yr haf. Mea dolores Mea dolores I'r tlawd y mae wylo. Pa ofid a ddaw A'th gyn yn wyrthiol greawdwr di-daw ? Naddu fy nghnawd y mae sicrach cyn. Cyn hir, byddaf wrthyf fy hun, fy hun. Mea dolores Mea dolores Wedi ei ethol i'r senedd am y tro cyntaf yn 1922, pleidleisiodd Robert Richards gydag R. T. Jones, Ysgrifennydd Undeb y Chwarelwyr, o blaid llwyr-waharddiad y ddiod feddwol. Pan ddaeth etholiad 1924, tybiodd rhai o'i wrthwynebwyr y gallent fanteisio ar hynny i'w niweidio yn nhref Wrecsam, lle'r oedd y darllawyr yn gryf. Gofynnwyd cwestiwn iddo mewn cyfarfod cyhoeddus paham yr oedd wedi pleidleisio yn erbyn y ddiod. Yn Ile ymesgusodi, gwnaeth Bob ymosodiad cryf ar y fasnach ddiod, ac amddiffyn ei safle heb flewyn ar ei dafod. Y noswaith honno, yr oedd nifer o weithwyr, glowyr gan mwyaf, uwchben eu glasiaid yn un o dafarnau'r dref. Be ydech-chi'n feddwl o Bob Richards rwan ? gofynnodd un. Wel, dyna ichi ddyn," atebodd un arall, digon o ddyn i sefyll dros ei argyhoeddiadau heb ofni neb." Ie," ebr y trydydd, ag mi allwn-ni ymddiried mewn dyn fel yna i ymladd dros ein hiawnderau ninnau hefyd." Be am inni wneud casgliad iddo, gofynnodd y pedweryd d, i helpu talu costau'r etholiad ? Aeth yr het o gwmpas, a chasglwyd cryn swm o arian iddo yn y fan a'r He