Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEÜRER CYLCHGRAWN CYMDEITHA8 ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMBU Cyf. XI GAEAF 1955 Rhif4 NODIADAU'R GOLYGYDD Y MAE arnaf eisiau sôn am Ddolanog a lleoedd eraill, ac nid oes gennyf ond cwta ddau dudalen i wneud hynny. Gadwch inni ystyried i ddechrau paham y bydd trefydd Lloegr yn ceisio dwr o Gymru. O'r de-orllewin y bydd y gwynt yn chwythu ac yn cario cymylau o law o'r cefnfor. Bydd mynyddoedd Cymru yn y gurllewin, a mynyddoedd Cumberland a Westmorland tua'r gogledd, yn atal y cymylau hyn ac yn peri iddynt ddisgyn yn law. Rhaid i'r tiroedd sydd ymhellach i'r dwyrain fod heb law am ein bod ni yn dwyn y rhan fwyaf ohono. Y mae gennym yng Nghymru ddigonedd o ddWr, ond y mae prinder yn siroedd y dwyrain-felly, rhaid inni rannu â hwy. Ni waeth inni dalu am y nwyddau a brynwn o wledydd eraill drwy werthu dŵr na thrwy werthu glo neu lefrith Ac nid yw llynnoedd dŵr yn anharddu gwlad fe allant ei harddu yn fawr. Yr unig gwyn sydd gennym yn y mater hwn ydyw y dylai bod gennym fwy o reolaeth dros y modd yr allforir dẃr o'n gwlad. Bûm yn galw am Fwrdd Dẃr i Gymru ers llawer blwyddyn. Ond beth am Gapel Ann Griffiths ? Nid capel Ann Griffiths ydyw capel Dolanog, ond capel a godwyd i ddathlu canmlwydd- iant ei marwolaeth yn 1905. I gapel John Hughes ym Mhont- robert y byddai Ann Griffiths yn mynd. Y mae'r capel hwn heddiw yn weithdy saer, a phulpud John Hughes mewn un gornel iddo. Mi glywais fod y sawl sydd yn ei ddefnyddio yn ei barchu, ond gweithdy ydyw, er hynny. Tair blynedd yn ôl, apeliodd Cynan at Gymru am arian i brynu'r capel, a'i adfer a'i ddiogelu er cof am Ann Grimths. Ni chafwyd dim ymateb i'r apêl hon. Y mae'n anodd credu yn niffuantrwydd pobl sy'n troi clust fyddar i apêl am ddiogelu'r capel y byddai Ann Griffiths ei hun yn addoli ynddo, ond yn codi'r wlad pan fo rhyw Saeson (â llawer iawn o waed Cymreig yn eu gwythiennau) yn sôn am foddi neu symud capel a godwyd gan mlynedd ar ôl iddi farw, er mwyn iddynt hwy a'u plant gael dWr.