Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYF. XII HYDREF 1956 RHIF 3 NODIADAU'R GOLYGYDD PETH diddorol ydyw byw mewn cyfnod fel hwn sydd mor llawn o gynnwrf, a llawer o hwnnw yn gynnwrf er daionL Cyn y bydd y geiriau hyn mewn argraff, y mae'n ddiamau y bydd cryn dipyn wedi digwydd ynglyn â Chamlas Suez a hawl gwledydd y byd i'w defnyddio. Efallai y bydd y gwledydd wedi cytuno â'i gilydd ar y mater-gobeithio y byddant-ond un ydyw'r digwyddiad hwn o gyfres 0 ddigwyddiadau mawr di- weddar cydgysylltiedig. Bydd edrych ar y rheini gyda'i gilydd yn dwyn ein sylw at fwy nag un egwyddor bwysig sydd yn werth ei thrafod a'i hystyried. Un digwyddiad mawr ydyw Deffroad yr Arabiaid yn y Dwyrain Canol. Rhyddhawyd hwynt yn y Rhyfel Mawr Cyntaf oddi wrth ormes y Tyrciaid, a chymerth Prydain a Ffrainc hwy "o dan eu gofal" i fwrw'u prentisiaeth mewn hunan-lywodraeth. Erbyn hyn y maent yn wledydd annibynnol-Irác, Syria, Lebanon, Trans-Jordan-ac er pan gawsant eu llywodraeth eu hunain buont yn tynnu'n nes at ei gilydd yn un frawdoliaeth. Heblaw eu bod o'r un gwaed (o leiaf, yn draddodiadol felly), unir hwynt hefyd gan eu crefydd, Mahometaniaeth, ac y mae honno yn eu huno, ar y naill law, â'u brodyr Arabaidd yng ngogledd Affrica-yr Aifft, ac ymlaen i Algeria a Morocco-ac ar y llaw arall â'r gwledydd i'r dwyrain iddynt yn Asia-Irán, Affganistan a Phacistan. Gall undeb y gwledydd hyn fod yn gyf- raniad at heddwch y byd, neu gall fod yn berygl iddo. Nid yw'r Deffroad Arabaidd ond rhan o "ddeffroad cenedl- aethol" ymhob rhan o'r byd-yn India a'r Dwyrain Pell, Affrica ac America­ac y mae i hwnnw gryn lawer o achosion, mwy nag y gallaf eu trafod yn awr. Enillodd yr Arabiaid hunan-lywodraeth pan ymladdodd Twrci ar ochr yr Almaen yn y Rhyfel Mawr Cyntaf; cafodd India a'i chymdogion hunan-lywodraeth ar ddiwedd yr Ail, ac ynghwrs amser gollyngodd Prydain ei gafael ar yr Aifft.