Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

byddai'r ail ryfel byd yn dranc iddi. "Dinistr dros dro" fyddai'r rhyfel hwnnw ar Gymru. Yn y gyfrol hon glythni angau yn ben- naf yw'r rhyfel; a'r hyn a ymglyw ef ei hun o'r adfyd yw tosturi ­gair allweddol yn syniadaeth y gyfrol, a gair sy'n unol â chysur Stoicaidd. Nid yw'n anobeithiol am ddyn, am fod bywyd yn para. Cred fod yn "rhaid inni borthi'n hyder". Ar un tu, osgo at Stoiciaeth a Phelagiaeth sy'n cynnal yr hyder hon, ac ar yr ochr arall, anian ddyngarol y bardd ei hun-y tosturi dyneiddiol sydd mor amlwg yn y canu, ac a gyflwynir yn nhermau gwaredigaeth-gwaredig- aeth tosturi. Y mae felly'n datrys problem ei fyd trwy feithrin ymateb unigolus, rhagor cynnig unrhyw waredigaeth gymdeithasol, oherwydd peth unigolus iddo yn y bôn yw'r Stoiciaeth, y Pelag- iaeth a'r tosturi-elfennau yn ei ddyneiddiaeth. EUROS BOWEN DAIL PREN, cerddi gan Waldo Williams. Gwasg Aberystwyth. 7/6. Y MAE i Waldo Williams un fantais fawr ar bawb o'i gyfoed- ion prydyddol. Y mae ei holl wedd ac osgo yn dwyn tystiol- aeth i'r bardd sydd ynddo, ac i'r annibyniaeth gadarn a ddylai nodweddu'r awenydd. Ac er mai'n achlysurol y gwelwyd ei waith mewn print, neu efallai oherwydd hynny, rhaid cyfaddef ei fod wedi ymwisgo â rhyw ddirgelwch pellennig, ac felly ag awdurdod hefyd: Gwir bod un neu ddau o'i gyfeillion agosaf, trwy chwys a llafur, wedi llwyddo i wneuthur mwy nag un casgliad defnydd- iol o'i gerddi mewn teipysgrif, ond bu raid i'r rhelyw ohonom fodloni ers blynyddoedd â thameidiau blasus a ddigwyddai inni o dro i dro. Mewn ambell lyfr anrheg, mewn ambell flodeugerdd, ac ambell dro, ond yn bur anfynych, mewn cylchgrawn, mae cerddi o'i waith wedi ymddangos o bryd i'w gilydd yn ystod yr ugain mlynedd diwaethaf, a llawer ohonynt yn dwyn nodau bardd anghyffredin iawn, bardd tawel a sicr iawn o'i grefft. Yn awr, trwy berswâd cyfeillion, dyma gyhoeddi cyfrol o'i ganeuon a chawn gyfle o'r diwedd i ryfeddu at faint ac amrywiaeth y cyn- haeaf, ac i ofidio peth am y cam a wnaed â ni o gadw'r profiad cyfoethog hwn oddi wrthym cyhyd. Nid gormod menter yw dweud y bydd Dail Pren yn siwr o brofi'n un 0 lyfrau barddoniaeth pwysicaf, ac anwylaf, y ganrif