Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ORFFIWS, a LLWYN BRAIN, comedïau mewn tair act, gan Huw Ll. Edwards. Gwasg Aberystwyth. 3/- yr un. Cyfaddasiad ar gyfer y llwyfan o ddrama a ddarlledwyd yw Yr Orffiws, â phum gwr a thair merch yn y cast. Comedi i bedwar o wyr a thair merch yw Llwyn Brain.. Y mae symudiad hwyliog i'r ddwy ddrama. Medr yr awdur greu sefyllfa gomic, mae'r ddeialog yn ystwyth, naturiol, a gwelir ei nerth yn bennaf mewn cymeriadau fel Lusa Llwyn Brain ac Yncl Enoc Yr Orffiws. Dyma gyfle da i actio cymeriad, a gellir meddwl am gynulleidfa'n cael noson o chwerthin iachus wrth weld y Comedïau hyn yn gwisgo cnawd ar lwyfan. JAMES NICHOLAS DIOGEL Y DA W, gan Meurig Walters. Hughes a'i Fab. 9/6. CYMRY LLUNDAIN DDOE A HEDDIW, golygwyd gan Dewi F. Lloyd a'i Bwyllgor. Undeb Cymdeithasau Diwyll- iannol Cymraeg Llundain. 2/6. (1) Y mae teitl y llyfr hwn yn awgrymu stori arswyd, oher- wydd cysylltiadau arswydus y gair "daw"daw dial, daw"; "y dydd, ebrwydded y daw"; "y Farn a ddaw". ("Daw! daw! daw!" medd crawcian darogan y frân). Ond nid stori arswyd ydyw hon; stori ddigri ydyw, digri dros ben-Po G. Wodehouse yn ei nerth. Tref brydferth dawel ar lan y môr sydd yma, a bardd ifanc modern-modern yn eistedd ar y traeth yn myfyrio, a rhiain ben- felen, harddach na'r wawr na Helen o Troi-pin-up girl ddeu- naw oed mewn gwisg ymdrochí-yn gwenu arno ar ei ffordd i'r dŵr. Beth arall a allai ddigwydd i'r ddau yn y fath Ie ond bod ben a chlustiau mewn cariad ar un edrychiad? O'r munud hwnnw, un o farchogion Arthur ydyw Gildas, yn chwilio am lewod a dreigiau i'w lladd er ei mwyn-heb ddychmygu fod un yn handi wrth law. Anghenfil erchyll boliog ydyw hwnnw, â giard aur yn fflachio ar draws ei frest ("yr oedd cyfarfod â Mr Prydderch yn sydyn fel dyfod wyneb yn wyneb â modur heb ostwng ei oleuad- au ar un o ffyrdd y nos"), ac y mae'n cynllwyn i droi'r pentref paradwysaidd yn Blackpool Cymreig. Ac mewn cyfarfod cyhoeddus, Gildas ar ei farch adeiniog, a gwynt yr Awen odano,