Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BANGOR (UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU) Prifathro SYR EMRYS EVANS, M.A., B.LITT., LL.D. Paratoir ar gyfer graddau Prifysgol Cymru mewn Diwin- yddiaeth, Gwyddoniaeth, y Celfyddydau, a Cherddoriaeth. Rhoddir addysg arbennig mewn Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Pheirianwaith Trydanol. Hyfforddir athrawon yn yr Adran Addysg. Cynigia'r Coleg gyfleusterau arbennig i ymchwil i Lên a Hanes Cymru ac y mae'r Llyfrgell yn gyfoethog mewn llyfrau a llawysgrifau Cymraeg. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn. Ceir pob manylion gan: KENNETH LAWRENCE, Cofrestrydd