Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYMRU AC ADDYSG AMERICA Gan BOB OWEN VI YM Mhensylvania, tua'r flwyddyn 1885, J. A. Hughesoedd Arol- ygwr Ysgolion y Sir yn Jefferson, ac N. S. Davies yn S. Lakawanna, ac enwir llu o Gymry eraill mewn cyffelyb swyddi mewn lleoedd eraill. Coleg Maritta, Ohio, oedd y prif goleg i fagu ymenyddiau'r Cymry gan athrawon Cymreig, a rhoddwyd buddsoddiant i'r coleg hwn i gynnal Cadair Gymraeg. Cofier am Adran Gelteg Prifysgol Harvard, sydd erbyn hyn wedi magu meistri mewn Celteg a Chymraeg Cynnar. Y mae rhai disgyblion o golegau eraill yn brif feistri ar hanes rhai o'r beirdd Cymreig a ganodd yn Saesneg. Cynhyrchodd Coleg y Merched, Brynmawr, ysgolheigion a ddaeth yn gyfarwydd â phynciau yn ymwneud â Chymry a Chymru. Nac anghofier chwaith fod dis- gyblion rhai o golegau America sydd yn awdurdodau ar y Chwedleuoh am Arthur. Nid gwiw inni anghofio Davies o'r Cwrt Mawr (brawd i'r Prifathro J. H. Davies), a fu'n un o geidwaid Field Museum mwy~ af y byd yn Chicago, ac y mae Williams, a aned yn Nyffryn MymV byr. yn geidwad Adran Blanhigion yr un amgueddfa. Ef yw'r prif awdurdod ar blanhigion America, ac yn enwedig rhai BraziL Addysgwyd ef yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, gan G. W, Robinson ac R. Alun Roberts. Y mae'n Gymro pybyr a deithia bob cam i dalaith Wisconsin i fod yn athro Ysgol Sul mewn capel Cymraeg. Bu Maude Jenkin Evans (merch i rieni o Sir Aberteifi) yn Broffesor mewn Economeg y Cartref yng Ngholeg Whittier, Califfornia. Bu David R. Jones, o dalaith Wisconsin, yn Arolygwr Ysgol- ion Dinesig, a Hyfforddwr mewn Ysgolion Normal. Enillodd glod yng Nghaliffornia a'r taleithiau agosaf fel darlithydd ar bynciau addysgol. Awdur amryw werslyfrau a fabwysiadwyd gan Fwrdd Ysgolion Cyhoeddus talaith Califfornia. John U. Williams oedd Arolygwr Ysgolion Cyhoeddus Missouri, a'i frawd Daniel Williams yn yr un swydd yn Glasgow, Montana. Rhaid gadael allan hanes gwyr fel Dan Protheroe; Joseph Parry; Thomas Griffith Jones (Tafalaw), a fu'n broffesor cerdd-