Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY YR wyf newydd ddychwelyd i'r swyddfa ar ôl treulio awr ddifyr iawn yn Nheml Heddwch ym Mharc Cathays, yn edrych ar Arddangosfa o Luniau Wynebau yng Nghymru. Y mae'r ardd- angosfa hon o 70 0 luniau meibion a merched enwog yng Nghymru yn cynnwys pobl mor adnabyddus â Huw T. Edwards, Megan Lloyd George, Alun Williams, Cliff Morgan a Joe Erskine. Y mae'r arlunydd ifanc, Andrew Vicari, yn adnabyddus iawn i fyfyrwyr y WEA yn Neheudir Cymru, a dyna paham y mae'r arddangosfa hon o ddiddordeb arbennig inni. Dechreuodd Mr Vicari ddysgu dosbarthiadau'r WEA yn y De ryw bum mlynedd yn ôl yn Port Talbot a Chastell Nedd, ac y mae wedi parhau gyda'r gwaith ar ôl hynny. Bu ganddo bedwar dosbarth llwydd- iannus iawn y llynedd. Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw fod 95 y cant o'i ddisgyblion yn gweithio mewn diwydiant neu fasnach. Daeth dosbarthiadau celfyddyd, lle y bydd yr aelodau yn gwneud rhywfaint o waith ymarferol, yn boblogaidd iawn mewn rhai ardaloedd, megis Casnewydd, Risca a Glynebwy, ac y mae dros 90 y cant o'r aelodau yn weithgar yng nghyfrinfaoedd eu hun- debau llafur. Y mae'n edrych yn debyg fod mwy a mwy o'r gweithwyr sy'n gweithio yn y diwydiannau a beirianyddwyd yn cael boddhad mewn defnyddio'r brws paent a "Thrio'u Llaw". 'Rwyf yn ysgrifennu'r nodiadau hyn pan yw'r dosbarthiadau yn dechrau setlo i lawr ar ôl gwyliau'r Nadolig, ond erbyn y byddant mewn argraff bydd llawer ohonynt wedi cwpla eu tymor, a bydd llawer o'r rheini yn ddosbarthiadau Illtyd David a T. G. Jones, aelodau ill dau o staff Athrawon Allanol Coleg y Brif- ysgol, Abertawe. Hwn fydd y tymor olaf iddynt hwy gymryd dosbarthiadau fel Athrawon Amser Llawn yn Adran Allanol eu Coleg; byddant yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, wedi rhoddi gwasanaeth maith a gwerthfawr i'r WEA. Yr wyf ar hyn o bryd yn paratoi Adroddiad Blynyddol y TUAC am 1959. Bydd yr adroddiad hwn yn ymwneud yn gyfan gwbl â gweithgareddau addysgol ein Hundebau Llafur; a didd- orol ydyw sylwi ein bod yn ystod y flwyddyn (o Ionawr hyd Ragfyr) wedi trefnu ugain o Ysgolion Bwrw Sul iddynt. Cynhal- iwyd rhai ohonynt yn Nhyndyrn, Sir Fynwy; yng Ngholeg Hyffor-