Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

O GOLEG HARLECH GAN I. DAN HARRY FE agorwyd y tymor hwn ar nodyn prudd. O'r braidd yr oedd ein myfyrwyr wedi dod i mewn pan dderbyniwyd y newydd am farwolaeth un o'n cyn-fyfyrwyr a oedd newydd ein gadael am Goleg y Brifysgol, Bangor. Canlyniad damwain wrth ddringo'r Moelwyn ydoedd marwolaeth Gilian Were o Gaerdydd. Bu'n fyfyriwr yma y flwyddyn gynt; yr oedd yn eneth hoffus a phryd- weddol a theimlwn hiraeth ar ei hôl. Cydymdeimlwn yn ddwfn â'r rhieni yn eu profedigaeth. Cawsom golled fawr arall ym marwolaeth un o ffrindiau mwyaf y Coleg, D. Hughes Lewis. Enillodd Dai Ie amlwg ym maes Addysg i Rai mewn Oed, ac yr oedd yn adnabyddus trwy Gymru a Lloegr am ei waith yn hyrwyddo a diogelu buddian- nau'r atbrawon allanol. Yr oedd ganddo bersonoliaeth ddeniadol, a hawdd iawn i Dafydd oedd gwneud cyfeillion a'u cadw. I ni yn y Coleg y mae hon yn ergyd drom. Yr oedd yn aelod o'r Cyngor, ac o Bwyllgor Gwaith y Coleg, a bu'n athro yn ein Hys- golion Haf am flynyddoedd lawer-yn wir, ni theimlem fod yr Ysgol Haf yn gyflawn rywsut hebddo. Mae ein cydymdeimlad dwys â Mrs Hughes Lewis a'i mab Stephen yn eu colled fawr. Yn ystod y tymor, cawsom y pleser a'r fraint o gyfarfod Peter Manniche o Goleg y Werin, Elsinôr. Erbyn hyn, mae Dr Man- niche wedi ymddeol o'i swydd fel prifathro'r Coleg byd-enwog hwn, ond nid oes arwydd yn y byd ei fod yn llafurio'n llai egnïoI ym maes Addysg Pobl mewn Oed. Bu yma am rai dyddiau a siaradodd â'n myfyrwyr ni yn ei ffordd ddigymar ar hanes y sefydliad a wnaeth ei enw'n adnabyddus drwy'r byd. Deallwyd fod ganddo gynllun newydd sbon ar y gweill a'i fwriad yn awr ydyw ceisio ennill cefnogaeth llywodraethau'r Gorllewin i sefydlu canolfan yn Nenmarc lle y gellir trin a cheisio datrys problemau economig gwledydd tlodion y byd. Ymhlith ymwelwyr eraill, bu cynrychiolwyr Mudiad Crist- ionogol y Myfyrwyr yng Nghymru-David Rees, Miss Non Evans a Miss Rhiannon Lewis. Y mae cangen y Mudiad yng Ngholeg Harlech wedi ennill lle hanfodol iddi hi ei hun yn y Coleg, ac y mae hefyd yn ddolen gydiol werthfawr â'r agwedd hon ar fywyd myfyrwyr colegau ein gwlad. Cafwyd cyfarfodydd lluosog a brwd yn ystod ymweliad y tri chynrychiolydd.