Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CERDDI JEPPE AAKJAER (Cyfieithiadau o'r Daneg) GAN J. GLYN DAVIES CAN Y GEIRCHEN Ceirchen wyf, myfi a'm clychau man, ugain cloch a rhagor sydd ar gan: Rhain sy'n talu, ebe'r ffarmwr pren; Duw a helpo'r creadur gwan ei ben. Hewyd fi, a'r hedydd gyda'i gerdd 'r hyd y dydd uwchben y dalar werdd; unsain dwfn y cacwn ar ei hynt; chwiban oriog pibydd gyda'r gwynt. Gwib cornchwiglen uwchben braenar ae ar draws gwedd ac arad' ganol cae; trosof gwnaeth y gyrwr lun y Groes, imi gael lwc dda ar hyd fy oes. Tyfu'n dal o dan y gwlithyn glan; fel 'roedd twf fy ngwraidd 'roedd twf fy nghan. Sawl a wrendy'n ddifalch, ef a glyw nodau'r hedydd yn fy nghan yn fyw. Nid all meddwl pridd amgyffred gwir: can ehedydd wyf ar gorsen hir, curiad bywyd, dwfn yn nhwf yr ha', rhywbeth mwy na bod yn ebran da. Gwynt y De, mor anwyl ganddo 'r wyf, ni chaf lonydd ganddo yn ei nwyf; sibrwd heibio 'mochau, onide, ar y chwith ac wedyn ar y dde.