Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

wymon yn unig y cyfeirir. Er cystal yr eirfa, gallai fod yn amgen- ach. Y mae ynüdi eiriau cyffredin, fei mêl a gwenith, ond nid oes eglurhad o gwbl ar lledach a ffawydd. Rhoddir y lluosog am eiriau cyffredin fel gwenynen, ond nid am cudyll a pioden. Y mae penwaig yn yr eirfa heb yr unigol. Gwyr pob plentyn beth yw rhaw, ond sawl un a wyr beth yw rhofiau (12)? Tynnaf sylw at bethau fel hyn am yr hoffwn weld llyfr ysgol mor berffaith ag sy'n bosibl, nid am fy mod yn ceisio difrïo gwaith awduron a roes inni gyfrol fechan ddiddorol a phrydferth dros ben. O'r ddau lyfr, rhaid i mi gyfaddef mai Llyfr Natur Paul a Nesta sydd orau gennyf i, ond wfft i enw mor anghymreig â Paul ar fachgen. Y mae golwg ddeniadol ar y gyfrol hon eto, a chynnwys nifer o luniau eithaf da, a dau dudalen o rai lliw gan Llew E. Morgan. Bwriodd yr awdur brentisiaeth yn ysgrifennu storïau a nofelau, a daeth hynny'n gymorth mawr iddo i greu cymeriadau byw ya Paul a Nesta ymchwilgar a'u rhieni gwybodus. Cyflwynir gwybodaeth mewn sgyrsiau difyr, a doniol weithiau, yn hytrach nag adrodd ffeithiau yn uniongyrchol fel yn y llyfr arall, a da iawn yw'r "Rhywbeth i'w wneud" ar derfyn y deuddeg pennod. Collodd y ddwy awdures gyfle i ddangos sut y gall ystlum ganfod ei ffordd yn y nos, ond dywed Mr Jones hynny yn glir a chryno dros ben. Synnaf i'r ddau lyfr drin y wiwer heb grybwyll o gwbl am y wiwer lwyd ddinistriol o America a ddaeth yn bla yng Nghymru. Cyfrol ddel yw Storïau Gwerin, mewn clawr lliwgar. Cynnwys ddeuddeg o storïau, a lluniau o waith E. Meirion Roberts ar eu cyfer. Un tudalen sydd i bob un o'r naw stori cyntaf, ac nid oes yr un o'r gweddill yn hwy na dau dudalen. Ond y mae yma gasgliad difyr o hen chwedlau, am dylwyth teg yn bennaf, mewn ffurf newydd. "Ystyrir y llyfr hwn yn addas i ysgolion gan y Cyd- bwyllgor Addysg Cymreig", meddai nodiad, ac fel ysgolfeistr fe wyr Mr Williams beth sydd o fewn cyraeddiadau'r plant. o. E. ROBERTS Y Chwarel a'i Phobl, gan H. D. Hughes. Llyfrau'r Dryw. 7/6. Casgliad o ysgrifau a ysgrifennodd y Parch. H. D. Hughes, Caergybi, i'r Drysorfa ydyw cynnwys y llyfr hwn, a lluniodd ei fab, David Lloyd Hughes, Ragair diddorol a chynhwysfawr iddo. Y mae'r Rhagair a'r ysgrifau yn ddogfennau gwerthfawr i ddar- lunio bywyd ardal chwarel Dinorwig ym mlynyddoedd cynnar y