Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Camp a Rhemp, gan W. D. Williams. Hughes a'i Fab 6/ Detholiad o storïau a baledi yw'r gyfrol hon gan mwyat. Dewiswyd cynnwys y gyfrol hon o Yr Athro a chan i W. D. Williams olygu'r misolyn hwnnw am ddeng mlynedd y mae'n briodol mai ef yw'r didolydd. Ceir yma gynnyrch W.D. ei hun, J. T. Jones (Porthmadog), ei frawd, R. E. Jones (Llanberis), R. Bryn Williams, a W. R. Evans. Mae yn y gyfrol waith gwreiddiol a nifer o gyfieithiadau da fel Y Lleidr Penffordd (The Highwayman-Alfred Noyes) gan J. T. Jones, a ymddangosodd yn Lleufer. Y gerdd gyntaf yn y gyfrol yw baled gan W.D.W. Baled Hart a Brown, ac y mae'n ddiddorol cymharu hon â baled Dafydd Owen yng Nghyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dolgellau (1949). Yn niwedd y llyfr mae nodiadau ar y cerddi. Dyma lyfr y bydd plant yn ei fwynhau, ac yn enwedig mewn ysgol pan geir athro i ddarllen y cynnwys yn dda iddynt. Dylai pob athro ac athrawes sy'n dysgu Cymraeg i'w plant wneud defnydd helaeth ohono.. GLYN ifans Chwe Drama Fuddugol, gan John R. Evans. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Clawr Ystwyth 7/6, Clawr Caled 10/6. Y Blynyddoedd Coll a Storiau Eraill, gan John R. Evans. Gwasg Aberystwyth. 7/6. Y Merlyn Du, Nofel gan T. Llew Jones Gwasg Aberystwyth. 6/ Tair cyfrol ddiddorol o waith dau brifathro prysur-yn yr ystyr weithgar-o Geredigion, a'r ddau'n hen gyfarwydd, wrth gwrs, i unrhyw un fydd yn dilyn y rhaglenni Cymraeg ar y radio a'r teledydd, neu'n bwrw i'r Babell Lên adeg y 'Steddfod Genedl- aethol. Gair byr am bob un o'r dramâu i ddechrau, gan roi hynny o help a fedrwn-ni i gwmnïau sy'n chwilio am ddramâu iddi taro nhw. i. Y Gorthrymedig (Gwobr Cwpan Coffa Vera Jones Urdd Dramodwyr Cymru 1956. Teledwyd gan y BBC 1956, a David J. Thomas yn cynhyrchu). Golygfa: Stafell yn swyddfa'r Unben. Cymeriadau: 8 o ddynion. Mae'r cefndir yn newydd i'r llwyfan Cymraeg, a llwyddwyd i argyhoeddi i raddau helaeth iawn. Y Drws Agored (Cwpan Coffa Vera Jones Urdd Dramodwyr Cymru 1957. Hon eto wedi 'i theledu ragor na siwrne, y tro