Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

cynta yn Nhachwedd 1958, a Dafydd Gruffydd yn cyfarwyddo). Golygfa: Ystafell fyw gyfforddus, yng Nghymru y tro hwn, a chawn bedair gwraig ac amrywiaeth yn 'u cymeriadau, gydag un dyn i wau'r ddrama inni. Dyma fy ffefryn i o'r chwech. Dianc (Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol 1954, Ystrad- gynlais). Golygfa: Ystafell Athrawesau mewn Ysgol Breswyl i Ferched. Saith o gymeriadau: Prifathrawes (60 mlwydd oed), tair athrawes (24, 42 a 55 mlwydd oed), croten ddeunaw oed, a'i mam. Camp yw creu drama ddiddorol i fenywod yn unig, ac y mae'n nesa peth i anobeithiol pan fo'r rheini bron i gyd yn perthyn i ddosbarth parchus di-liw. Ar waetha'r groten ifanc o athrawes, a'r fam a'r ferch, mae awyrgylch y stafell yma'n rhy debyg i'r gwir i ddiddori. Fe'i crewyd, mae'n debyg, ar gyfer cystadleuaeth a gofynion arbennig. Y lleia 'i swyn i mi. Y Rhwyd (Buddugol yn Eisteddfod Powys, 1958). Golygfa: Stafell Gyffyrddus eto a galw am Ffenest Ddrws yn y cefn. Whech o gymeriadau diddorol a dau o'r rheini'n ddynion. Drama iasoer ddatgelu sy'n dangos yr awdur ar 'i ore. Y Dyn Drws Nesaf (Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol 1959, Caemarfon). Golygfa: Ystafell Eistedd fodern a Meurig Stephens, Efa Stephens a Joseph Lobbock i actio'r ddrama. 'Dyw hon ddim mor llwyddiannus â'r Rhwyd-yr awdur yn "pregethu" ar 'i waetha, a blas hynny'n mynd yn drech na'r cymeriadau. Y Llwybrau Tywyll (Buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol 1956, Aberdâr). Golygfa: Stafell mewn ty cyffredin pump o wragedd o'r ugain i'r trigain mlwydd oed yn gymeriadau. Drama arall a luniwyd ar gyfer cystadleuaeth a phwrpas arbennig. Mae llawer mwy o lwyddiant ar hon nag ar Dianc, er bod tuedd hwnt ac yma i fynd yn goegfeddal. Dyna nhw, defnydd dwy noson dda o ddrama, digon o amryw- iaeth. Fe dâl y gyfrol 'i darllen rhwng cloriau llyfrau (mynnwch yr un â'r clawr caIed-mae'n mynd i boced cot yn hwylus dros ben) ond ar y llwyfan o flaen cynulleidfa y byddan nhw ar 'u gore. Diolch i Manod Rees hithau am y lluniau, er iddi fod braidd yn gas wrth "Ann Rees" yn Dianc. Dyma a geir ar siaced lwch Y Blynyddoedd Coll a Storiau Eraill: "Cyfrol o ddeg o storïau byrion amrywiol yw hon. Mae dwy ohonynt yn storïau serch, dwy yn astudiaethau o blant, un am baffiwr, un am ysgolfeistr yn ymddeol, un am wyrth, ac un