Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Pa afon fel Teifi a foli, O fardd? Ap Gwilym a'i datgan ei hunan yn hardd. A bu Dewi Emrys a rasus ei rîl Fel miwsig i'w glust wrth ddal pysgod i'r crîl, A llunio sawl englyn, a'r sewin, reit siwr, Yn sain cynganeddu'n ymdaflu o'r dwr. Fy nghyfaill genweirig, caredig dy ryw, Faint gawn ni'n dau eto o hafau i fyw? Os byddi dy hunan wrth bwll Gilfach Wen Un noson, a chlywed swn rîl wrth lein den, Nac ofna, myfi fydd yn llithro drwy'r gro O Erddi Paradwys i Deifi am dro. (Trwy gennad yr awdur—perchen yr hawlfraint) CILGERRAN.—Tu draw i'r afon y mae plasty Coedmor. Dy- wedir bod gan y teulu a drigai yno yn yr hen amser rwyd bysgota a honno wedi ei lledu ar draws afon Teifi a bod llinyn o un pen y rhwyd wedi ei gysylltu â chloch yn y ty, a honno'n canu pan fyddai digon o eogiaid yn y rhwyd i ysgwyd y llinyn. A fu pysgota mwy hamddenol erioed?-E. Llwyd Williams, yn Crwydro Sir Benfro. Cofiais am Huw, y diniweityn o Frynsiencyn a hanner addolai John Williams. Llawer gwaith, meddir, ar ôl claddu ei eilun y cerddodd o Frynsiencyn i fynwent Llanfaes, ac unwaith clybuwyd ef yn dywedyd uwchben ei feddrod, "Wyt ti byth am godi, mêt?" ­O Cartrefi Enwogion, gan Myfi Williams. Mae 'na stori lle bynnag y mae glaswellt wedi tyfu dros lwybrau dynion.-Islwyn Ffowc Ehs, mewn sgwrs deledu.