Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

F'ENAID TAW! (Cyfieithiad J. GLYN DAVIES o JEPPE AAKJAER) F'enaid taw, mae'r haul ar fynd dros y grug iw gaere', garan wedi mynd iw nyth, gwartheg yn troi adre'. F'enaid taw, mae'r haul ar fynd. Tawel ar y ffordd drwy'r grug, tawel ar y llwybyr; dim ond swn un cacwn brith ar y ffordd iw grwybyr. F'enaid taw, mae'r haul ar fynd. Gwib cornchwiglen unig lef uwchben pyllau mawnog, cyn rhoi'i phen o dan ei phlu yn ei gwely brwynog. F'enaid taw, mae'r haul ar fynd. Mae ffenestri pell ar dan acw draw'n y dwyrain; ar y rhos mae gwrid yr haul yn y pyllau bychain. F'enaid taw, mae'r haul ar fynd. YR HEN GAR Rhyw lanastr ar olwynion-a ysgwyd Esgyrn yn gyrbibion, Dihefelydd adfeilion, A rhwd yr holl ddaear hon. (Evening) (Hawl-ysgrif Mrs H. Glyn Davies)