Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ddau. Trydanwyd yr awyrgylch gan hyn, a bellach yr oedd yr enwair i'r sawl a ragorai mewn pwysau, ac i'r glorian y traddodwyd brithyll Ned. Syllai llygad pawb ar y pindil, a chripiodd hwnnw yn araf nes sefyll ar ddeng owns. Yna, sgodyn Ben, a phawb yn dal ar ei anadl-deng owns, un owns ar ddeg-Ben oedd y buddugol! Aeth y tymor heibio, a chydag ef lwyddiant Ben yn y gystadleu- aeth, ac aeth bywyd pawb, yn cynnwys Ben, ymlaen fel arfer. Un diwrnod, yng nghaban y chwarel, daeth ffrigwd rhwng Ben a Wil ei bartner, ac yn fflamychiad y ffrae, edliwiodd Wil iddo na roddodd neb erioed o'r blaen haels plwm mewn bol sgodyn er mwyn ennill genwair. Yn fuan wedi cyhoeddi Yr Haf a Cherddi Eraill, gofynnais i Williams Parry a oedd-o wedi sylwi fod ei soned i Williams Pantycelyn wedi ei hargraffu wyneb-yn-wyneb â'i soned i'r Cantîn Gwlyb. O, tewch â sôn," meddai; roedd Hwn-a-Hwn yn dweud wrtha-i y diwmod o'r blaen: Wyddost-ti be, Bob? meddai; fedra-i byth agor dy lyfr-di nad y peth cynta fydda-i'n i weld bob tro ydi gweld yr hen Bant yn mynd am i beint Fal blodau prennau ymhob rhith, fal od, Fal adar ar wenith, Fal y daw y glaw a'r gwlith, Mae i undyn fy mendith. Hen Fardd Di-enw. Casglu dail dan draed yn Rindia Lle mae/r gwres ar pryfed amla ai sugno/n fwg drwy bibell glaerwen nid oedd mo hyn pen oeddwn fachgen. -Cerdd gan fardd anhysbys tua 1646, o Cerddi Rhydd Cynnar (gol., T. H. Parry-Williams).