Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CORON I'R LLENOR? Gan R. BRYN WILLIAMS POBL od ydym ni'r Cymry! Byddwn wrth ein bodd yn ymrannu, ac yna'n cenfigennu a ffraeo a'n gilydd! Un o'n hymraniadau diwethaf yw'r un rhwng y llenorion a'r beirdd. Y llenorion yn teimlo fod gormod o ffys yn digwydd ynglyn â'r beirdd. Mae'r beirdd yn hawlio'r seremoniau i gyd iddynt eu hunain, ac yn cael gormod o sylw a chlod gwlad. Ond chwarae teg i'r bardd gael ei ddiwrnod, oherwydd ychydig o ddim arall a ddaw i'w ran. Mae'r nofelydd, er iddo golli'r wobr yn yr Eisteddfod, yn cael digon o gyfle i gyhoeddi ei waith wedyn, ond wedi i'r prydydd chwysu am fisoedd i lunio awdl, ac er iddo gael canmoliaeth y beirniaid, waeth iddo roi'r gerdd yn tân ddim. Gydag eithriadau prin, yr unig ffordd y gall bardd gyhoeddi ei waith yw ar ei liwt ei hun, a bod yn barod i golli arian yn y fargen. Ond bellach rhoir i'r llenor nawdd y Cyngor Llyfrau, nid yn unig trwy roi cyfle cyhoeddi iddo, ond hefyd trwy dalu iddo am bob mil o'i eiriau. Chwarae teg felly i'r bardd gael coron ar ei ben a chadair dan y pen arall ryw unwaith mewn blwyddyn. Os yw'r llenorion yn dyheu am fwy o sylw, paham na luniant seremoni ychwanegol ar bnawn Mercher yr Eisteddfod? Mae seremonîau'r Orsedd yn llwyddiant. Tynnant y miloedd i'r pafiliwn, ac mae'r miloedd hynny'n cyfrannu at gynnal ein diwyll- iant. Paham ymyrryd â'r ddwy seremoni sy'n llenwi'r pafiliwn ar ddyddiau Mawrth ac Iau? Ein hangen yw cael mwy o seremoniau, petai'n ddim ond er mwyn chwyddo Cronfa'r Pafiliwn. Tybed nad oes gan ein nofelwyr a'n dramawyr ddigon o ddychymyg i lunio seremoni newydd, a fydd nid yn unig cystal â rhai'r Orsedd, ond yn rhagori arnynt? Seremoni hollol Gymreig, a phobl ifainc yn eu gwisgoedd traddodiadol mewn dawns werin, y llenor yn cael ei gyfarch â Chanu gyda'r Tannau, a'i arwisgo â chlogyn o'r brethyn Cymreig hardd sy'n gynnyrch rhai o'n ffatrïoedd heddiw. Y mae clywed rhai o'n llenorion, a rhai ohonynt yn athrawon coleg neu yn arweinwyr cyhoeddus, yn codi eu cloch fel plant wedi sorri, yn gywilydd inni fel cenedl. A chan fy mod yn sôn am yr Eisteddfod, oni ellid newid ychydig ar ei rhaglen? Paham y mae'n rhaid i bopeth ddigwydd yr un