Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

eraill. Cawn stori'r Faner, stori sy'n haeddu ei hadrodd, hanes cychwyn Bwrdd Croeso Cymru gyda'i anawsterau bore a'r pwysig- rwydd o beidio ag anwybyddu'r ddelw Gymreig." Gweithredu ffydd oedd sefydlu Gwyl Cymru a da gwybod am y dynion-da-eu-gair a ddaeth i'r adwy yr adeg honno. Mwyaf diddorol oll, efallai, yw'r 11u pobl y daeth ar eu traws o bryd i'w gilydd ar daith neu wrth ei waíth-pobl fel John L. Lewis, Harold Mac- millan, David Maxwell Fyfe, Henry Brooke, Gwilym Lloyd George, ac yn y blaen — a'i farn onest amdanynt. Yn wir, dyma fwynglawdd o wybodaeth a phrofiad y tâl i bawb gloddio ynddo, cyfoeth o sylwadau treiddgar ar bob math o bynciau y bydd rhaid i bawb gnoi cil yn hir iawn arnynt. Ond un agwedd yn unig ar y gyfrol yw hon. Ceir ynddi a thrwy- ddi ac arni nod H.T." ei hun, y gŵr hogynnaidd-ddoeth, aeddfed ei brofiad, hoffus ac annwyl, direidus a chraff, cydymaith y mae'n hyfryd treulio awr neu ddwy yn ei gwmni, megis yn y gyfrol hon, am fod ei olwg ar Gymru a'i phethau mor iachus a diffuant. R. WALLIS EVANS Ward 8, gan Harri Williams. Gwasg Gomer. 8/6. Yr oedd y llyfr hwn yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Rydd- iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli y llynedd, ac yr oedd yn llwyr deilwng o'r Fedal, ond fod cystadleuydd arall wedi bod yn drech nag ef. Cefais bleser mawr iawn yn ei ddarllen. Adroddir yr hanes ar ffurf dyddlyfr ac y mae'n hawdd credu ei fod wedi ei seilio i ryw fesur ar brofiadau'r awdur. (Dyfalu yr wyf). Hanes ysgolfeistr yn dioddef oddi wrth y TB sydd yma, ac yn gorfod treulio naw mis mewn ysbyty, neu sanatorium. Nid yw awyrgylch yr hanes yn afiach nac yn drist. Y mae yma gymeriadau hoffus a disgrifiadau da ohonynt, a digon o stori i gadw'r diddordeb yn fyw ar hyd y ffordd. Y mae'n llyfr y gellir cael blas ar ei ail- ddarllen, ac y mae hynny'n ganmoliaeth go uchel. Dengys diddordebau'r awdur ei fod ynŵro ddiwylliant eang. D.T. YMHOLIAD.-Derbyniais soned dda, Yr Hen Wraig, gan rywun, ond ni wn i gan bwy. A fydd yr awdur mor garedig ag anfon ei enw imi?