Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SWPER CHWAREL GAN EMRYS EVANS CLYWODD Margiad Elin swn esgidiau hoelion mawr ei gWr, John Jacob, yn taro'n rheolaidd ar y ffordd gefn gul a arweiniai at y tŷ, gryn ddau funud cyn i'r perchennog ddod i'r golwg yn y ddôr gefn. Medrai Margiad ddweud i'r munud-bron na ddywedwn i'r eiliad-pa bryd y deuai pen John Jacob i'r golwg. Gan mai ef a ofalai am lanhau'r caban bwyta yn y chwarel lle gweithiai, gwnâi hyn ef ychydig yn hwyrach na'i gydweithwyr yn noswylio. Trodd Margiad at y tân, lle 'roedd y tegell eisoes yn berwi. Achubodd ef yn ddeheuig rhag arllwys ei gynnwys dros yr heyrn tân gloyw, a throdd at y bwrdd. 'Roedd hwn wedi ei osod yn barod; y lliain yn lân, a'r llestri'n sgleinio, a'r bara menyn yn ddwyres ddestlus ar y plât. Ar ganol y bwrdd, mewn dysgl wydr, yr oedd cynnwys tùn samon. Ymsythodd Margiad fymryn, a rhoes ei llaw ar y tlysau yn ei chlustiau. Oedd, roedd popeth yn barod i John Jacob, a hithau yn y ffrog orau a feddai a'i gwallt yn un o gyrls mân, yn barod i gychwyn y munud cyntaf y câi'r afael rydd. Rhyw gwta awr oedd ganddi na fyddai'n amser iddi gychwyn am Sefydliad y Merched. Yna, wrth wrando ar swn traed ei gŵr yn dynesu, crychodd Margiad Elin ei haeliau. Daeth cysgod o amheuaeth i'w meddwl, a chlustfeiniodd am funud. Er bod dau ddrws caeëdig rhyngddi a John, a hyd yr ardd gefn a dôr yr ardd, clywodd ei chwyrnad o bell, a swn digamsyniol blaen ei esgid dde yn helpu ei law i agor y ddôr. Be' andros sy'n 'i gorddi-o heno, tybad? gofynnai Margiad iddi 'i hun. Nid yn aml y tarfai dim ar undonedd meddyliol John Jacob, a oedd, ar y cyfan, yn greadur pur fodlon ar ei fyd. Ond pan ddeuai gwynt croes adwaenai Margiad yr holl arwyddion o bell. Gwelodd ddôr yr ardd yn cael ei chau yn glep-a'i gadael i siglo'n agored. Arwydd drwg, heb ddim amheuaeth. Nid oedd yn natur lonydd John Jacob i glepian drysau'n ddireol, nac i adael dôr yr ardd led y pen i bob dafad grwydrol droi i mewn. Medrai Margiad erbyn hyn weld wyneb ei gŵr wrth iddo ddod i fyny'r llwybr, ac ynddo yr oedd holl arwyddion drycin. Drat unwaith! meddai wrthi ei hun, a finna wedi meddwl ca'l cychwyn yn o ddi-lol! Ond mi fydd rhaid i mi wrando ar 'i