Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

dwy ganrif arall, yn Gymraeg. Ond erbyn hynny, fe ddichon y bydd proffwydoliaeth Marx am lwyr edwi'r Wladwriaeth wedi ei chyflawni ac na bydd rhestrau ar gael o gwbl ond mewn amgueddfeydd. Nid am gynllun uchelgeisiol fel hyn, fodd bynnag, y bwriadwn sôn pan grybwyllais ail weld fy hen restrau yn Uwchaled. Yr enwau ac nid y papur oedd y lliw yn y rheini; yr enwau a'r dyddiau a'r blyn- yddoedd a gofnodant. Damwain, ffodus fel y digwyddodd, a barodd i mi droi gyntaf at ddosbarthiadau WEA. Yn 1938, pan orffennais i a'm cyfoedion ein term yn y brifysgol, yr unig beth sicr a'n hwynebai oedd diweithdra. Allan o ryw bedwar ugain ohonom a oedd wedi cwpláu cwrs gradd a hyfforddiant dysgu ar ddiwedd term haf 1938, un yn unig a oedd wedi cael swydd mewn ysgol cyn gadael y coleg. Bychan a ddych- mygwn bryd hynny weled dyddiau pan fyddai adrodd ffaith fel hyn yn swnio'n anghredadwy. Ie, un allan o fintai'r flwyddyn i gyd, ac un o Loegr oedd ef. Mae'n debyg nad oedd y swyddi i'w cael: mae'n sicr nad y fiwrocratiaeth sydd ohoni heddiw a geid yn 1938. Sicrach na dim oedd fod Cymru yn cynhyrchu llawer gormod o athrawon i ateb ei galwadau hi ei hun. Eithr at hyn i gyd rhaid, ysywaeth, ychwanegu un ffactor arall arbennig i Gymru, a ffactor nad yw, ysywaeth mwy, wedi dangos yr arwydd lleiaf ei bod yn cilio. Honno oedd canfasio. Yn 1938, gobaith gwan yn wir a oedd gan unrhyw fachgen neu eneth am gael swydd gynorthwyol mewn ysgol heb howca ei gais o dy un aelod o'r Pwyllgor Addysg Lleol i'r llall. Nid dychymyg yw hyn; fe welais y peth yn digwydd ar fwy nag un achlysur. O'i gymharu â pharodrwydd a llwyddiant cyfrwys mewn canfasio, nid oedd na gradd na thystysgrif nac unrhyw ddiploma arall o nemor gwerth. I Gymru, yn 1938, roedd swydd athro yn golygu sicrwydd a chyfoeth cymharol: yn Lloegr, ar y llaw arall, yr oedd cymaint o swyddi brasach i'w cael fel nad oedd swydd ysgol yn cyfri rhyw lawer, ac felly, nid oedd canfasio'n broblem yno (ac nid yw heddiw). Ffenomen arbennig Gymreig yw canfasio am swyddi addysgol; adlewyrchiad o dlodi a'r math neilltuol o daeogaeth y mae tlodi'n ei fagu. Cancr moesol ydyw, ac fe ŵyr pawb hynny yn y bôn, canys nid oes neb erioed wedi llwyddo i'w amddiffyn. Ymhlith fy mlwyddyn' i, yr oedd llawer nad ymostyngent i'r fath lygredd ac wrth gwrs, cefnasant ar yr alwedigaeth yr hyffordd- wyd hwy ynddi, am byth. I lawer, yr oedd gweld y fath siniciaeth tuag at addysg ei hun, ac addysg golegol yn arbennig, yn ddigon i greu diflastod a ffieidd-dra parhaol o'r holl safle. Os taw i hyn-