Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFALAF, III GAN R. O. ROBERTS Y MARCHNADOEDD STOCIAU FEL yr awgrymais y tro diwethaf, fe gyfyd y partneriaethau a'r cwmnïau preifat eu cyfalaf ariannol drwy fenthyca, a thrwy werthu siariau i gyfeillion a chydnabod. Mae llawer o brynu a gwerthu fel hyn yn digwydd, yn anffurfiol ac heb hysbysebu; a gellid cyfeirio at y cyfan o'r prynu a'r gwerthu yma fel marchnad cysyllt- iadau personol Ond mae hi'n werth i'r cwmniau cyhoeddus a'r awdurdodau llywodraethol dalu am wasanaeth arbenigwyr i lawnsio eu stociau ar raddfa fawr yn y Gyfnewidfa Stociau, ac y mae prynu a gwerthu gweddol gyson ar stociau o'r fath. Y fwyaf o lawer o'r Marchnadoedd stociau ym Mhrydain yw'r un yn Llundain, ond mae cyfnewidfeydd mewn trefi eraill-yng Nghaerdydd, er enghraifft, Casnewydd ac Abertawe. Clwb o arbenigwyr yw'r Gyfnewidfa Stociau yn Llundain. Fe ddaeth i fod yn y ddeunawfed ganrif, ac er y Rhyfel Byd Çyntaf daeth prynu a gwerthu stociau Llywodraeth a ffyrmiau Prydain yn fwyfwy pwysig ynddi, a delio mewn stociau o wledydd eraill yn llai pwysig. Gan mai clwb yw'r farchnad arbennig yma, nid yw'n agored i bawb — er y gall ymwelwyr edrych i lawr ar y gweithrediadau trwy wydr, o'r galeri. Yn y Gyfnewidfa y mae dau fath o aelodau, sef y broceriaid a'r jobwyr-ynghyd a'u clercod awdurdodedig hwy. Tasg y broceriaid yw gweithredu ar ran eu cwsmeriaid sydd eisiau prynu stociau, ac hefyd ar ran y rhai sydd eisiau gwerthu stociau. Maent yn barod, dim ond talu'r comisiwn iddynt, i gynorthwyo mewn prynu a gwerthu unrhyw stoc-ond sylwer nad yw'r broceriaid eu hunain yn prynu nac yn gwerthu iddynt. Mae'r jobwyr ar y llaw arall yn prynu ac yn gwerthu, ac fe arbenigant mewn prynu a gwerthu mathau arbennig o stoc-stociau Llywodraeth, stociau cwmnïau cotwm, neu gwmniau olew, dyweder. Dyma sut y trefnir pethau. Fe aiff y brocer at jobwr arbennig ar lawr y Farchnad, a gofyn am brisiau stociau arbennig heb ddweud p'run ai prynu ai gwerthu a fynn. Fe rydd y jobwr ddau bris-yr uchaf ohonynt y pris yn ôl pa un y gwerthai, a'r isaf y pris a roddai wrth brynu-ac o'r gwahaniaeth yn y prisiau y caiff y jobwr ei enillon. Os bydd y pris yn dderbyniol, fe drefna'r brocer y prynu