Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PARCH. GLYN GERALLT DAYIES, M.A. (1916 1968) gan Derwyn Jones Pan fu farw Gerallt Davies eleni fe gollais o'm bywyd ryw- beth a fu'n rhan annatod ohono o ddyddiau fy llencyndod. A minnau'n hogyn ysgol yn dechrau ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg, deuthum i wybod fod bardd ifanc addawol dros ben yn byw yn y Rowen yng ngenau Dyffryn Conwy, heb fod ymhell o'm cartref innau ym Mochdre. Ymddangosai cerddi o'i eiddo ym 'Mhabell Awen', Y Cymro a derbyn canmoliaeth uchel y golygydd, Dewi Emrys. Yr oedd Gerallt naw mlynedd yn hyn na mi ac yn fyfyriwr pan ddeuthum i'w adnabod. Fe'i ganed yn y Ro-wen ar 21 Chwefror, 1916. Cawsai ei addysg yn Ysgol Gynradd y Ro a mawr oedd ei barch i'w hen ysgolfeistr Mr Levi Roberts Athrawes arall yn yr ysgol honno, cyn symud ohoni yn brif- athrawes i'm hen ysgol innau ym Mochdre, oedd y ddiweddar Miss Jane Glyn Jones, o Ddolwyddelen, cyfnither i'r Athro John Lloyd-Jones, Dulyn. O Ysgol Gynradd y Ro aeth Gerallt i Ysgol Ramadeg Llan- rwst ac yno daeth dan ddylanwad yr Athro Cymraeg, y diweddar O. R. Hughes. Dechreuodd ymserchu mewn barddoniaeth Gym- raeg a than gyfarwyddyd ei athro dysgodd y cynganeddion. Yna, prentisiwyd ef yn swyddfa'r cyfreithiwr Henry Jones yij nhref Llanrwst, ond ni bu yno ond am ychydig oherwydd pen- derfynodd ddechrau pregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, fel ei gyfoedion yn yr Ysgol Ramadeg, y diweddar Barch. John F. Smith, Birmingham, y Parch. D. G. Merfyn Jones, a'r Parch. Ednyfed Thomas. Canlyniad hyn fu iddo fynd i Goleg Clwyd ac yno daeth dan gyfaredd yr athro dihafal hwnnw y Parch. Dewi Wílliams, awdur Y Clawdd Terfyn. Ni fliniau Gerallt son am Dewi Wil- liams a rhaid fu ganddo ysgrifennu soned o barch iddo gan ei gymharu a 'phengarddwr plas Tarentum gynt', yn trin ac yn tocio'r planhigion yn ei ardd. Aeth o Goleg Clwyd i Goleg y Brifysgol, Bangor lle'r oedd y Dr. Thomas Parry yn ddarlithydd y pryd hwnnw ac yr oedd