Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUFER Cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Cyf. XXV 1971 Rhif 2 NODIADAU GOLYGYDDOL GERAINT WYN JONES CYMRU AC IWERDDON 'Roedd Enoc Powell. y gwleidydd o Sais, yn ceisio esbonio chwyldro Gogledd Iwerddon mewn araith danllyd yn ddiweddar, ac fel y gellid disgwyl roedd ei sylwadau'n rhai treiddgar iawn. Yn lle disgrifio'r carfanau mewn termau crefyddol, haerodd yn blwmp ac yn blaen mai cenedlaetholwyr, rhai sydd am weld Iwerddon unedig, gwladgarwyr Gogledd yr Ynys Werdd, oedd yn perthyn i un garfan, ac mai Prydein- wyr, y rhai oedd dros barhad y 'status quo,' gwladgarwyr o fath gwahanol oedd yn y garfan arall. Pan yw rhywun yn ceisio dehongli Iwerddon o safbwynt grefyddol, does fawr o debygrwydd bellach rhwng y wlad honno a Chymru, os bu tebygrwydd erioed, a dyma fu byrdwn llithoedd ein gohebwyr politicaidd ers tro byd yn y papurau newydd ac ar y cyfryngau torfol. Dadleua'r rhain fod sefyllfa fewnol y ddwy wlad mor annhebyg fel na all sefyllfa danllyd Iwerddon fyth fodoli yng Nghymru. Ond os yw un yn edrych ar y ddwy wlad drwy sbectol Powell 'dyw'r darlun, greda i, ddim mor olau. Yng Nghymru fel ag yn yr Iwerddon mae agwedd un at y wlad y mae'n byw ynddi, ei chyflwr, ei sefyllfa, a'i hiaith, yn sail, ran amlaf, i ddaliadau gwleidyddol person yn ystyr eang y gair hwnnw. Gellir maentumio fod y gymdeithas Gymreig gyfoes, yn fras, yn ymrannu'n ddwy garfan, a'r ddwy yn ymlynu'n dynn wrth ideolegau gwleidyddol pendant, gyda thorf enfawr niwtral yn y canol, wrth gwrs. Un garfan yw'r rhai y gellir eu galw'n wladgarwyr, ac yma mae'n rhaid i'r term gofleidio nifer helaeth o is-garfanau a thorri ar draws y categorïau a'r partion gwleidyddol arferol. Mae'r rhain dros barhad y genedl Gymreig a nodweddion arbennig ygenedl honno gan ddad-