Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Syr Thomas Carey Evans (1884-1947) a Thriniaeth Lawfeddygol Nodedig ym Mlaenau Ffestiniog D. Lloyd Griffiths, Llawfeddyg Esgyrn (wedi ymddeol) Y llynedd, 'roedd rhif 10 Heol Downing, Llundain, yn 250 mlwydd oed. Ar y 4ydd o Ragfyr, cynhaliwyd parti yno i ddathlu'r pen-blwydd, ac ymhlith y gwesteion yr oedd Lady Olwen Carey-Evans, yn ail-ymweld â'i hen gartref. Ym 1917, pan oedd ei thad, David Lloyd George, yn Brif Weinidog, priododd Olwen Lloyd George â Thomas John Carey Evans yng Nghapel y Bedyddwyr, Stryd y Castell, Llundain, a hynny yn Gymraeg. Yn ôl y Daily Post, rhif 10 fu ei chartref am gyfanswm o 15 mlynedd. Bellach, y mae'n 93 oed, ac yn wraig weddw ers 1947. Dygodd y nodyn hwn yn y Daily Post un arall i'm cof, sef erthygl yn y British Medical Journal ym mis Ebrill 1907', gyda'r teitl "Severe Cranial Injury without Loss of Consciousness". Disgrifia'r erthygl fer hon driniaeth lawfeddygol hynod iawn yn Ysbyty Oakley, Blaenau Ffestiniog, ym 1905. Efallai mai'r digwyddiad hwn oedd un o'r enghreifftiau cyntaf o glaf yn goroesi colli rhan o labed flaen ei ymennydd. Y llawfeddyg oedd T.J. Carey Evans. Chwarelwr oedd y claf, dyn 32 mlwydd oed, a gawsai ddamwain mewn ffrwydrad yn y chwarel. Yr oedd ganddo glwyf mawr, tua modfedd a hanner o led a phedair modfedd o hyd, ar ochr dde ei dalcen. Dinistriwyd ei lygad dde, ac 'roedd peth o'i ymennydd ar ei rudd dde. 'Roedd y claf yn ymwybodol trwy'r amser, er ychydig yn gymysglyd ei feddwl ac yn ddryslyd. Adnabu'r meddyg yn yr ysbyty, gan iddo ei alw wrth ei enw. Symudodd Carey Evans amryw ddarnau o esgyrn wedi ei rhyddhau, gan gynnwys y rhan fwyaf o blât llorwedd y benglog. Tra'n chwilio mewn rhan o'r ymennydd wedi ei ddadorchuddio, gyda stilydd, teimlodd Carey Evans rywbeth caled, a chyda gefail fain tynnodd allan ddarn mawr, gwastad o lechen, ar ffurf diemwnt. Pwysai'r darn llechen ymron i owns, ac yn fodfedd a thri chwarter o hyd a chwarter modfedd o drwch. Rhaid iddo fod wedi mynd i mewn rywle yn agos i gongl fedial y llygad, gan ei dinistrio, a mynd trwy do'r crau i mewn i labed flaen yr ymennydd. Wedi iddo lanhau'r briw a thynnu allan y darnau rhydd o esgyrn, llenwodd Carey Evans y briw gyda chlwt â drwythwyd mewn iodofform. Nid oes sôn am anesthetig yn ystod y gweithrediadau, ac 'roedd y claf yn ymwybodol yr holl amser y bu yn yr ysbyty, (tua chwe mis), ond ei fod yn anniddig a dreng am tua chwe wythnos. Nid oedd parlys na dideimladrwydd. Gwellhaodd y briw yn araf, ac ymddangosai gweithrediad ymennydd y claf yn normal a'i ddeallusrwydd yn ddianaf. Ar amser y cofnodiad yn y British Medical Journal, (1907), 'roedd mewn cyflwr da, ond gyda phant mawr yn ei dalcen wedi ei orchuddio gan haen denau o groen; o dan y croen gellid gweld curiad yr ymennydd. 'Roedd Carey Evans, (ar ôl 1921 y dechreuodd sillafu ei enw Carey-Evans), yn ddyn hynod iawn, ac annheg yw ei gofio ond fel mab yng nghyfraith i Lloyd