Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A wdit Pwysau Gwaed Dr Gruff Penrhyn Jones Pan ddywedodd Ysgrifennydd y Gymdeithas wrthyf fy mod i wedi gwirfoddoli i roi darlith, doedd hi ddim yn anodd dewis pwnc. Roeddwn wedi gwneud penderfyniad eisoes i astudio effeithiolrwydd ysgrinio pwysedd gwaed yn y practis. Mae pob meddyg teulu yn credu ei fod yn gwneud gwaith da dan amgylchiadau anodd. Parod iawn yw ei bartneriaid, fel arfer, i gadarnhau hyn. Mae awdit wrthrychol, mewn cyferbyniad, yn dangos beth sydd yn digwydd mewn gwirionedd. Gall hyn fod yn broses anghyffyrddus a bygythiol, yn enwedig os yw un meddyg yn gwneud awdit ar waith un arall. Rwyf am osgoi y broblem honno drwy gyflwyno awdit bersonol. Rydym yn cadw rhestri personol ym Mhendre. Pur anaml y byddai'n gweld claf sydd wedi cofrestru â meddyg arall yn y practis. Ymdrinia'r awdit â mesur pwysedd gwaed dros gyfnod o dair blynedd oherwydd dyma'r cyfnod a ddewiswyd ar ein cyfer dan y cyfamod, neu yn hytrach y gyfundrefn, newydd. Ers Ebrill 1990 mae hi'n ofynnol i feddygon teulu wahodd pob claf sydd heb ei weld ers 3 blynedd am archwiliad iechyd. Mae mesur pwysedd y gwaed yn rhan hanfodol o'r archwiliad hwn. Wrth geisio dadansoddi ffeithiau a chreu ystadegau ynglyn â rhywbeth a wneir mor aml â mesur pwysedd gwaed, mae cyfrifiadur yn hanfodol. Gall weithio'n gyflym, a dangos y canlyniadau yn ddi-flewyn ar Uned Arddangos Gweledol os nad ar dafod. Fe huriwyd ein cyfrifiadur gan AAH Meditel, ddwy flynedd a hanner yn ôl. Mae ganddo brosesydd Intel 386, 100MB o gof ar ddisg caled, gyda cache, ac ohono mae naw terfynell yn cysylltu dan system Xenix, sydd yn frawd bach i system Unix. Ar adegau prysur mae'r terfynellau i gyd ar waith pump gan feddygon, un gan y nyrs, a thair gan y gweinyddesau. Ers dwy flynedd cofnodwyd bron bopeth ar y cyfrifiadur. Ond gan fod yr awdit dros dair blynedd, nid yw'r manylion yn gyflawn. Collwyd rhai o'r manylion wrth i gleifion gael eu gweld yn eu cartrefi, ac wrth i rai weld meddygon eraill a oedd yn arafach yn dygymod â'r dechnoleg newydd yn y cychwyn. Mae'r ystadegau ysgrinio yr wyf am roi o'ch blaen yn cynrychioli, felly, leiafswm y mesuriadau. Dengys Llun 1 batrwm fy rhestr bersonol. Mae'n ddiddorol cymharu y patrwm â phatrwm rhestr fy mhartneriaid. Pan gychwynnais heb restr ddeng mlynedd yn ôl, babanod a'u mamau ieuanc oedd y mwyafrif o'm cleifion. Mae'r un patrwm i'w weld yng ngwaith dau bartner iau yn y practis heddiw. Mae'n amlwg fod meddyg yn heneiddio gyda'i cleifion.