Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

(Ffigwr 1) Mae'r cyfrifiadur, a thrafod gwybodaeth drwy dechnoleg, â'r manteision o fedru cyfnewid, adnabod, adolygu a thrawsgyfeirio data yn gyflym, diogel ac effeithlon. Felly, gellir arbed cryn amser i'r meddyg a'i staff, a hefyd gwella: 1. Cynllunio'r gwasanaeth 2. Trosglwyddo'r gwasanaeth 3. Gofal i'r claf fel unigolyn ac yn y gymdeithas 4. Gweinyddiad a'r defnydd o'r cyllid 5. Awdit, adolygiad a'r asesiad. Ond mae nifer o broblemau: 1. Mae pobl, nid yn unig yn ofnus o ddatblygiad technoleg, ond hefyd yn wrthwynebus i rywbeth y maent yn ansicr a fydd yn gwella gweinyddu gofal i'r claf. 2. Mae'r treuliau mewn termau o arian ac amser yn sylweddol, er fod y Llywodraeth wedi cefnogi defnydd cyfrifiaduron yn y Gwasanaeth Iechyd Gofal Cyntaf. Un o egwyddorion sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd yw sicrhau fod cyswllt a gwybodaeth am iechyd yn gyfrinachol bob amser. Er nad yw hyn i'w gweld yn gymaint o broblem yn awr, mae gan y proffesiwn beth amheuaeth parthed y gallu i gynnal yr un safonau cyfrinach sydd wrth ddefnyddio cofnodion ar bapur wrth ddefnyddio cyfrifiadur. Gellir dadlau nad oes yr un brwdfrydedd wedi ei ddodi i mewn i addysg a hyfforddiant i gyd-redeg â'r datblygiadau technegol sydd yn digwydd. Yn ami iawn yn y Gwasanaeth Iechyd nid yw'r anghenion canfodol, er enghraifft ymweld â'r henoed ac archwilio pobl iach, bob amser yn deilwng o'r un sylw â'r gwir anghenion, er enghraifft addysg am beryglon ysmygu. Yn anffodus, am resymau politicaidd, yr anghenion canfodol sydd yn cael y