Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Mae llawer o ddulliau triniaeth traddodiadol gan y Tsieineaid, ac mae acwbigo'n un ohonynt. Rhai eraill yw llysieuaeth, tylino'r corff a mocsibustion. Mae acwbigo'n fodd o drin afiechyd neu gyflwr meddygol drwy ddodi nodwyddau arbennig i mewn yn y croen i greu adwaith therapiwtig. Nid yw cyffuriau yn cael eu defnyddio mewn acwbigo ac mae'n ddull gweddol ddi-gost o iachau, gydag ychydig iawn o sgîl effeithiau. Mae acwbigo yn esmwytho poen ac yn gallu gweithredu fel anaesthetig. Aiff rhai pobl cyn belled a dweud ei fod yn gallu dod a symudiadau yn ôl i aelodau diffrwyth a rheoli epidemigau. Mae acwbigo vn ffordd o wella sydd: ACWBIGO Dr Henry T. Holland Ddim yn defnyddio cyffuriau. Ychydig o gostau. Ychydig o sgÎl- effeithiau. Esmwytho poen. Gweithredu fel anestheteg. Adnewyddu aelodau parlysedig. Rheoli epidemig. Ffìgwr 1