Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GOLYGYDDOL Nid oes amheuaeth fod rhyw elfen hunan-ddinistriol yn y mwyafrif ohonom yn tarddu efallai o benderfyniad Adda i aberthu ei anfarwoldeb drwy flasu'r afal! Y mae digon o wybodaeth i'r cyhoedd am y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd, ond er hynny diofal yw trwch y boblogaeth. A phwy a wêl fai arnynt? Mae'r gwybodusion ymhlith meddygon a gweithwyr iechyd wedi gwneud datganiadau dadleuol ac anghywir yn y gorffennol, ac o'r herwydd nid yw eu cynghorion mor ddylanwadol ac y dylent fod. Ymhell cyn i'r Awdurdod Hybu Iechyd ein hannog i fyw'n iach, ysgrifennodd Izaac Walton, 'Edrychwch ar ôl eich iechyd ac, os yr ydych yn ei feddu, canmolwch Dduw, a gwerthfawrogwch ef yn ail i gydwybod da'. (1) Mae'n amlwg ei fod wedi ymarfer ei bregeth oherwydd roedd yn 90 mlwydd oed pan fu farw. Sefydlwyd Curiad Calon Cymru yn 1985 a'i gyfuno ag Awdurdod Hybu Iechyd Cymru yn 1988, ac yn 1990 cyhoeddodd yr olaf adroddiad yn cymharu rhai agweddau ar arferion byw pobl yn 1985 â'r sefyllfa yn 1990. Ychydig o newid a fu yn y ganran oedd yn yfed alcohol yn rheolaidd. Ac eithrio ym Mhowys, lle bu lleihad o 3%, cynyddu wnaeth y grwp gordrwm drwy Gymru. Ond, ar yr ochr bositif, roedd prawf fod yna newidiadau mewn diet, gyda llai o fraster dirlawn a halen a mwy o fwydydd yn cynnwys ffibr yn cael eu bwyta. Ar gyfartaledd ni fu newid ym mwytiad siwgr. Efallai mai'r newid mwyaf calonogol oedd y lleihad mewn ysmygwyr ym mhob Rhanbarth, ac roedd yn amrywio 0 3% yng Nghlwyd a Morgannwg Ganol i 10% yng Ngwent. (2) Bu ysmygu yn gyfrifol am 110,000 o farwolaethau yn 1991, ac mae'n parhau i fod y prif achos marwolaeth arbedol. Amcangyfrifir fod cost y gwaith ychwanegol i Feddygon Teulu sy'n dilyn ysmygu yn £ 750,000,000 bob blwyddyn. Dywed Godfrey et alia (3) fod ymchwil yn dangos y gall y Meddyg Teulu a'i dîm gael dylanwad yn arwain i leihad o 10% mewn ysmygwyr. Yn sicr mae prawf pendant fod cynghorion gan Feddygon Teulu yn effeithiol. Yn ei ddarlith ar Ganser y Croen gwnaeth Dr Huw Jones gymwynas â ni, Aelodau'r Gymdeithas Feddygol, drwy ein hatgoffa o enbydrwydd a mynychder marwolaeth o'r Tyfiant Du, a'r rhan y gallwn ei chwarae drwy gyngor syml. Cyfeiriodd y Dr Wyn Morgan eisoes yn y cylchgrawn hwn (4) at faint y broblem yn Awstralia, gyda 1:50 o'r trigolion yn dioddef o'r clefyd. Dengys y torfeydd sy'n parhau i dorheulo ar y traethau nad yw'r neges parthed dinoethi i'r haul wedi cyrraedd ei nôd. Dyma ffolineb pleser amser byr yn arwain i drychineb amser hir ac mae cwpled R. Williams Parry yn addas mewn mwy nag un ystyr: 'Wedi'r chwarae daw'r gaeaf Gwynfyd yr ynfyd yw'r haf.' (5)