Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLOFFION Dr Edward Davies "Cynddaredd, pethau da rhagddo" Arwydd: Y mae'r llygaid yn gochion, malu â'r dannedd, malais aruthrol at rai dynion, diffyg cwsg, swn canu yn y clustiau, nerth anghyffredin, teimlo dim oerfel, a llid anferth pan y cyffroir i ddigofaint. Meddyg: Y mae gollwng gwaed yn dda yn y clefyd hwn, a cymryd deugain diferyn o tinctur helebor du mewn glased o ddwfr ddwy neu dair gwaith yn y dydd. Mead Dylai'r claf ymgadw rhag pob math o gig hallt sych, pa un a'i cig eidion neu gig moch, oddi wrth pob pysgod cregin, a phob pysgod eraill o natur drymaidd. Oddi wrth pob bwyd ag wniwn a garlleg ynddo. Yn y cyffredin ni ddylai fwyta dim ond yr hyn a fo ddigonol i gynnal natur, diod wan, neu ddwfr oer glân yw'r diodydd gorau; y mae gwinoedd melusion a chryfion yn niweidiol iawn, a llosgi Tobacco yr un wedd. I wella cnofad Ci cynddeiriog Cymerwch bedwar dram o lysiau afu'r ddaear, 'Ground Liver Wort', o liw Onnen, dau dram o bupur duon, pwniwch hwynt ynghyd nes byddent yn bowdr mân teg: Y mae'r powdr i'w rannu yn bedwar, un rhan i'w chymryd yn wag yn y bore mewn llaeth twym, dros bedwar bore, ar ôl hyn rhaid dodi y dyn mewn dwfr oer, bath neu afon, dros ddeg diwrnod ar hugain ar ôl eu gilydd yn fore iawn, a chyn brecwast: nid yw i aros yn y dwfr, â'i ben uwchlaw'r dwfr, ddim yn hwy na hanner munud. Rhaid ffomentio'r clwyf yn wastadol â finegr a halen wedi eu twymo, mor boethed ag y gellir eu dioddef. Y mae ymdrochi mewn dwfr hallt yn dda at yr un peth. Dr Mead Arall (Fe a'i profwyd, ac ni fethodd erioed, medd fy awdwr) Yfed y claf mor gyntaf ag yw bosibl wedi ei gnoi, peint o finegr gwin gwyn, gwnaed felly dri bore yn wag. Mynych olched y clwyf â finegr, wedi hynny cymryd llwyaid fawr o sudd Rue dros dri bore yn wag, ond cyn cymryd sudd y Rue, gollynged ynghylch 8 wns o waed."