Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ÔL-EFFEITHIAU CAMDRINIAETH RYWIOL Gwen Jones-Ed wards Yn ddiweddar, daeth y ffaith fod rhai oedolion yn cam-drin mewn modd rhywiol yn wybodaeth gyffredinol, yn enwedig ar ôl achosion Cleveland ac Orkney ac yn sgîl y darganfyddiadau am gartrefi plant yng ngogledd a de Cymru. Ni ŵyr neb yn union beth yw amlder camdriniaeth o'r fath, ond mae'r amcangyfrifon yn ymestyn o 6% i 62% o ferched a 3% i 31% o fechgyn.1 Yn sicr, nid yw hi'n broblem brin nac yn un newydd. Gallwn gymryd yn ganiataol felly fod canran sylweddol o'r boblogaeth mewn oed wedi cael ei gam-drin fel plant. Pwrpas yr erthygl hon yw archwilio'r ôl-effeithiau seicolegol y gall y boblogaeth gamdriniedig ddioddef ohonynt. Gwneir hynny, yn gyntaf trwy amlinellu gwahanol ffurfiau yr ôl-effeithiau, ac wedyn eu darlunio trwy olrhain dau achos. Wrth gam-drin cyrff plant, bydd oedolion hefyd yn cam-drin yr ymddiried sydd gan y plant ynddynt. Mae plant fel arfer yn edmygu oedolion; maent yn gweld oedolion fel pobl gryf, doeth a chynhaliol. Byddant yn ceisio efelychu oedolion. Pan gamdrinir plentyn gan oedolyn, crëir argyfwng seicolegol enfawr. Mor bwysig yw byd holliach wedi ei boblogi gan oedolion dibynadwy i'r plentyn, na fydd yn medru chwalu'r delfryd hwnnw trwy feio'r camdriniwr. Haws yw i'r plentyn feio ei hun, ac fe fydd yn aml yn datblygu'r meddylfryd ei fod wedi haeddu pob camdriniaeth. Dyma sylfaen problemau seicolegol bron pob oedolyn camdriniedig (goroeswr); mae'r teimlad o ddrygioni cynhenid, euogrwydd mawr ac, yn sgîl hyn, diffyg hunanhyder, yn arhl yn llethol ac yn dylanwadu yn eang ar eu bywydau.2 Gall mynegiant ôl-effeithiau camdriniaeth fod yn amlochrog a gallant ymestyn dros ystod y clefydau seiciatryddol clasurol. Gallant ymddangos fel seicosis, niwrosis, anhwyledd personoliaeth, alcoholiaeth neu gamddefnydd cyffuriau. Pan fo'r salwch yn un seicotig, gall amlygu ei hun fel sgitsoffrenia neu gyflwr y pruddglaf lloerig (manic-depressive state), gydag anhrefn meddwl, rhithganfyddiadau a rhithdybiadau yn y cyntaf, a chyfnodau o amhwylledd (mania) yn yr ail. Hefyd, gwelwn iselder un pegwn yn aml mewn goroeswyr. Afraid dweud fod y gamdriniaeth yn aml yn lliwio cynnwys yr anhwylderau uchod; pan ddadansoddwn y cynnwys, gwelwn fod yr un problemau seicolegol yn bresennol ym mhob salwch. Olrheinir yma ddau achos, un â diagnosis o sgitsoffrenia a'r llall ag ofn cyffredinol (generalised anxiety): o'u cymharu, gwelwn fod y broblem sylfaenol yr un fath yn y ddau.