Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

sydd yn cael darfyddiad mislif yn iau na 45. Mae gan fenywod nad oes ganddynt blant a mamau hyn fwy o risg o ddatblygu'r afiechyd. Mae'n debyg mai'r risg fwyaf yw cael plant yn hwyrach na 35 mlwydd oed. Mae cysylltiad rhwng CYF a gordewdra mewn henoed, ond mae'n debygol fod gordewdra yn yr ifanc yn lleihau'r risg. Y rheswm am hyn, yw fod oestrogen yn cael ei gynhyrchu yn y feinwe frasterog. Hormonau allanol: e.e. y bilsen wrth-genhedlol (OCP) a hormonau ailosod oestrogen (HRT). Mewn arolwg a wnaed gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu (1986), nodwyd fod dros 95% o ferched iau na 30 wedi cymryd yr OCP am gyfnod o amser oherwydd eu bod yn cael cyfathrach rywiol yn aml. Felly, mae'n bwysig edrych ar y cysylltiad rhwng yr OCP a CYF. Mae'n debygol fod CYF yn datblygu'n amlach mewn menywod sydd yn cymryd y bilsen na'r rhai o'r un oedran nad ydynt yn gwneud hynny. Ffigwr 1: Risg o gancr y fron: amser ers dechrau'r bilsen. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd erthygl1 sy'n astudio'r berthynas rhwng CYF a'r bilsen (OCP) a chydnabyddir risg gymharol 0 1.07 o ddatblygu CYF. Mae ffigwr 1 yn crynhoi canlyniadau'r erthygl, a gwelir bod menywod a gymrodd y bilsen neu sydd wedi ei hatal yn ddiweddar â risg ychydig yn uwch o ddatblygu CYF (risg gymharol o 1.24 i gymharu â 1.16 o ran y menywod sydd wedi atal y bilsen rhwng 1 a 4 blynedd yn gynt). Nid oedd dim cynnydd ychwanegol 10 mlynedd ar ôl atal y bilsen, ac