Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PARHAU y mae rhyfel y saint yn erbyn gelynion dnwinyddiaeth, ac y mae yn eangu ei therfynau. Y mis hwn ymddangosodd argraffiad poblogaidd o lyfryn hynod ddarllenadwy y Parch. R. E. Welsh, gweinidog Presbyteraidd yn Willesden Green, Llundain, In Belief of Doubt. Chwe Cheiniog ydyw ei bris, a chyhoeddir ef gan H. R. Allenson, 1 and 2, Ivy Lane, Paternonter Row, Llundain. Ysgrifenwyd nodyn rhagarweiniol iddo gan Esgob Llundain. Nid pawb all gydnabod lle amhouaeth yn hanes y Cris"on, llawer llai dangos y ffordd resymol i ddod allan o hono. Ar gyfer ieuenctyd prysur bywyd masnach, a allant gael eu hunain ynghanol amheuon yr ysgrifenwyd y llyfr bach dan sylw, ac nis gall neb a'i darlleno ofni talu iddo warogaeth Cristion a llenor ar gyfrif ei ysbryd iach a dewr, ynghyda'i ymdriniaeth agored a deallus, fel ag i arwain pob un a fyn:.o fod yn rhesymol i diriogaeth ffydd a gobaith. Y dydd o'r blaen, ymwelais å masnachdŷ Iddew,—old rhaid desgrifio'r fasnach yn fanwl. 0 bob peth dyddorol, y mwyaf yw gwylio Iddew yn pwyso ei nwydd yn ei fantol. Nis mynnai er mil o bunnau roddi gormod o bwysau i'r prynnwr ao, hyd y gall, gofala waredu ei hun rhag gafaelion y gyfraith. Nid bob amser y cyrhaedda berffeithrwydd yn hyn. Fel rheol y pechod paro i'w amgylchu yw yr olaf. Yr un pryd, i bob ymddangosiad, ceisia ddallu y prynnwr. Gwna hynny yn hynod gelfyddydol. Wedi chwarei ychydig gyda'r fantol, cenfydd ar ba ochr y mae y pwysau mwyaf; aci'w helpu i ymddangos yn gyfiawn, chwyth yn dawel a chudd ar un pen i'r fantol nes y byddo yn tueddn i ddisgyn i lawr. Y funud y symuda yn y cyfeiriad prlodol, cipir y nwydd oddiarni, lapir ef i fyny yn y bapurlen, a theflir ef i'r prynnwr, gyda'r geiriau mwyn hynny: Chwechei iog, os gwelwch yn dda." Hwyrach na buasai neb ond pwyswr cain y llywodraeth yn gallu profi fod un peth o'i Ie gyda'r nwydd; ond y mae gormod o drafferth i ymweled â'r gwr hwnnw. Y cwestiwn yw pa un ai'r glorian ai ewyllys yr Tddew oedd o'i lle ?—cwestiwn hynod fine, ys dy*ed y Cymro, yn absen gair Cymraeg. A chwestiwn o'r fath yw hwnnw pa fodd y gall dyn ameu heb fradychu barn a gwirionedd er mwyn boddio rhyw dueddfryd borsonol o eiddo y dyn ei hun ? Dyma y cwestiwn a gaiff sylw yr awdwr yn y bennod gyn'af, dan y penawd: The Art of Doubting Well." Mynnai Newman mai dyna yw gwendid Protestaniacth, sef fod lle amheuaeth o'i mewn. Mynn Welsh mai dyna yw gwendid Pabyddiaeth, se nad oes le i ameu ynddi. Fel rheswm tros y gosodiad hwn cyf-iria at y gwir fod He i ambenaeth yn y prawf cyntaf erloed roddwyd ar ddyn gan Dduw yng ngardd Eden,-to doubt well becomes a necessary art. Eithr bod yr amheuaeth yn bur yw y cwestiwn. Dibynna y purdeb hwn ar amryw agweddau yn hanes y meddwl, Gwareder rhag bod ameu er mwyn aiüeu yn amcan. Gofaler mai'r amc n yw dod o byd i'r gwir. Gafaeler yn hynny o wir all dyn ei weled. Gwnaer yn sicr fod y prcfion a ddefnyddir yn rhal cwbl resymol a deallus. Na fynner ar unrhyw gyfrif bod yn rhy frysiog,—­ caffed amynedd ei pherffaith waith." O bob peth, gwarchoder rhag y tueddfryd personol cyfrin ag Bydd yn wastad rhy barod I gamliwio y gwir a chofier mai nid o feddwl yn gymaint ag o weithredu y daw gwaredigaeth y rhan amlaf. Hyd yn oed pan ymddengys y gwir am Gristi- nogaeth ymhell o gyrraedd dyn, gellir mynwesu ysbryd bywyd yr Iesu fel arweinydd a chymheJlitid i'n bywyd ni ein hunain. Dyna'r unig fywyd gwerth ei fyw. Pa beth bynnag all fod yn wir neu gau, yr unig ysbryd cywir i nl yw yr ysbryd a'i bysbrydolai Ef."