Cylchgronau Cymru
Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau
310 ER COF. ogystal a rhai ffeithiau sydd i raddau yn goleuo y darlun adynnir yn y gyfrol,-megis yr Ysgolion Sul, yr "Adult School Movement," &c. Prin y rhoddir i'r Ysgol Sul y 1le a deilynga yn y gyfrol, nac yn y cyfrifiad. Paham na chyfrifwyd hwy? Hyderwn yn fawr fod llaweroedd yn ein plith sydd yn astudio y gyfrol drostynt eu hunain. Y mae crefyddwyr y deyrnas yn dra dyledus i berchenogion y Daily News am y gwasanaeth anmhrisiadwy a wnaeth drwy gymeryd y cyfrif. Y mae tôn uchel a nodwedd bur y newyddiadur hwn yn un o'r dylanwadau iachusaf a feddwn yn awr yn mywyd y deyrnas. Gwrecsam. J. WILLIAMS. ER COF.* Wŷr y llygad sych a'r galon oer a chaled, ciliwch draw Na foed ond calonnau tyner allant wylo'n awr ger llaw. Symledd hiraeth mynwes glwyfus a gaiff wisgo'r gân i gyd,- Heb un linnell yn dwyn delw rhwysgfawr ddawn rhagrithiol fyd. Haws yw cadw ffug a lledrith rhag difwyno gwedd y gân, Na rhoi ar yr allor yma dewyn o ddîeithrol dân Ein Helïas anwyl, ëon, heddyw yn ei fedd yn fud, Dyma'r testyn-testyn geidw hiraeth byw yn nghalon tud. Tyred, Awen, llunia ddarlun,-dangos ar dy lèn y dyn Yn y rhagorolion hynny ddeil ein meddwl wrtho'n nglŷn Dilyn uniawn lwybr ei fywyd, noda sylfaen gref ei glod, A'r amynedd na ddiffygiodd nes cyrhaeddodd ef y nod. Glan a siriol oedd ei wyneb, llawn delweddau hoffai'r hen- Pwyll, gonestrwydd, a hynawsedd ;-teimlai plentyn swyn ei wên. Cyflym, ysgafn ei gerddediad, megis gwr yn hoffi gwaith Golwg arno leddfai flinder llesg bererin ar ei daith. Mab tangnefedd oedd, a mwynder ysbryd Iesu yn ei wedd Prawf o'r gwerth mewn byd terfysglyd sydd mewn dyn yn caru hedd. Yng nghol glyd Llangollen swynol, gerllaw Castell Dinas Bran, Tynnodd ei anadliad cyntaf-yn swn dawns y Ddyfrdwy lân. Angel gwyn oedd yno'n gwylio rhag i'r baban tlws gael cam: Gwenai'r nef a'r ddaear arno pan yn sugno bron ei fam. Hauwyd gan rieni duwiol hadau bywyd teyrnas nef Am yr Henadur Elias Jones, U.H., Llandudno.