Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

mwyaf dysgedig Gogledd Cymru wedi traddodi araeth yn Nhŷ y Cyffredin yn hollol ffafriol i'r syniad am Brif-ysgol Babaidd i'r Gwydd- elod. Clywsom hefyd un o ddysgawdwyr mwyaf dylanwadol Oymru, yr hwn sydd Brotestant selog o'r Iwerddon, ac wrth hynny yn elyn greddfol i Babyddiaeth, yn datgan ei farn o blaid y Brif-ysgol. Y rheswm a roddai oedd nas gallai Pabyddiaeth fyw yn yr Iwerddon, mwy nag yn un wlad arall, yng ngoleuni addysg eang a rhydd. Dyger addysg uwchraddol i gyrraedd y bobl gyffredin, nid yw o fawr bwys pa fodd, a cheid gweled, cyn bo hir, sylfaeni'r ofergoeledd ar ba rai y mae yr offeiriadaeth wedi ei hadeiladu, yn siglo i'w gwaelodion. Anwybod- aeth yw mamaeth y dduwioldeb a feithrinir ganddynt hwy. Goleuni gwybodaeth a bâr wir ofn yr Arglwydd, a wna'r bobl yn genedl rydd, ac a ddug eto i'r Iwerddon Heddwch 0 fewn i'w rhagfur a ffynianti'w phala-au." Hanfod y fath addysg ydyw, Gwnawn ddrwg fel y del daioni." A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddraiu, neu ffigys oddi ar ysgall î Y mae'r sawl sy'n pleidio rhoddi arian y wladwriaeth i waddoli Prif-ysgol o dan lywodraeth yr Esgobion Pabaidd, ar y dyb- iaeth y gallai yr addysg a gyfrennir oleuo a rhyddhau y Gwyddelod, yn anghofio y byddai y gwaddol yn aros i barhau yn nwylaw y gormes- wyr sydd yn brif awdwyr camwri y Gwyddelod yn awr. Credwn yn ddiysgog yng ngoruchafiaeth gwirionedd a rhyddid, yn y pen draw, er gwaethaf pawb a phob offeryn a lunier yn eu herbyn ond ni ddylai unrhyw ymddangosiad o degwch ac awydd i foddhau, wyro neb i bleid- leisio arian y wladwriaeth i dynhau hualau y Gwyddelod Pabaidd ar y dybiaeth o oruwchlywodraeth amgylchiadau yn y diwedd, drwy hynny, i ddwyn oddiamgylch eu rhyddhad. Y mae dyn yn gyfrifol am ei weithred ei hun, ac nid am y canlyniadau a ddwg y weithred honno oddiamgylch o dan oruwchlywodraeth rhagluniaeth. OMICRON. IS-YMWYBYDDIAETH: EI NATUR A'I SWYDDOGAETH. CYWIR y dywed yr ben wirair Lladinaidd fod pob peth, o'i ddilyn yn fyfyriol, yn ein harwain i ganol dirgelwch. Yn nechreu ei ymchwil nid hawdd i unrhyw feddyliwr yw eydnabod hyn ac nid da iddo fyddai gwneud hynny. Parlysid ei ymdrech, oerid ei iel yn ormodol pe yr arosai ei feddwl ar yr ymsyniad pruddaidd mai rhannol ar y goreu fyddai llwyddiant ei daith ymchwiliadol. Ond ynghwrs blynyddoedd ei fywyd, os yn parhau i chwilio am y gwirionedd, gwthir arno, bodd neu anfodd, yr ymsyniad fod pob ymdrech yn arwain, yn hwyr neu yn hwyrach, i fro lwyd-oleu cyfrinion dirgel. Fel yr eangir crwngylch ein gwybodaeth o ffeithiau profedig, eangir hefyd gylch y dirgelwch sydd yn eu hamgylchynu Y mae damcaniaethau fuont unwaith yn ein