Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BRASLUN-UN 0 BREGETHWYR CYMRU. Pwy Ydyw ? FoD Cymru wedi, ac yn cynnyrchu dynion mawr sydd yn wirionedd diamheuol, er fod rhai o blant Hengist yn eu dylni yn gwadu hyny. Y mae y Phariseaid, hunanol, ac ymffrostgar hyn, oherwydd culni eu meddyliau, yn ac wedi gofyn megis, eu hynafiaid gynt, A ddichon dim da ddyfod o Gymru ? Y mae eu gweithredoedd a'u geiriau yn profi natur ac ansawdd eu meddyliau; ond er hyn, y gwirionedd yw, mai Cymru, a chymeryd rhif ei phoblogaeth a'i manteision, sydd yn meddu mwyaf o ddynion galluog. Beth bynag fu y genedl Seisnig, y mae yn rhaid iddi gyfaddef mai ar y gori- waered y mae yn awr, yn ddiamheuol. Ychydig yw nifer ei dynion mawr mewn gwirionedd. Bu ganddi rai dynion mawr-gwirioneddoI fawr, megis Gladstone ac eraill, ac y mae ganddi rai felly yn awr, megis John Morley ac eraill ond beth yw yr ychydig hyn i genedl mor luosog ?-cenedl sydd wedi mynn goreuon pob peth y deyrnas hon i'w mantais eu hunain, gan sarnu pawb eraill o dan eu traed. Nid anghofia y Cymry byth drahausder y genedl falch hon ynglyn âg addysg-y peth hwnw sydd yn dadblygu adnoddau medd- yliol cenedl yn ei wahanol agweddau, ac felly yn rhoddi mantais iddi i ymddyrchafu. Y mae Hanesiaeth yn dyst fod y genedl Gymreig wedi ei chadw i lawr cyhyd ag yr oedd yn bosibl, rhag iddi gael mwynhau ei hawliau, ac y mae yr un ysbryd yn fyw y dyddiau hyn; ond er y cyfan, i fyny y mae Cymry yn mynu dringo, ac y mae ei hcnwogion yn amlhau yn mhob ystyr a chyfeiriad. Un o wroniaid y genedl orthrymedig hon yw gwrthddrych y braslun hwn. Cymro da o waed cyfa coch,' ac un o'r rhai mwyaf, os nad y mwyaf, a'i gymeryd yn ei holl agweddau. Yn gyntaf oll, ni a gymerwn drem ar ei ddyn oddiaIlan:- Y mae ganddo gorff cydnerth, lluniaidd, a graenus, ac o daldra ychydig yn fwy na'r rhelyw o'r genedl, ac y mae ei gerddediad yn syth, heinyf, a chyflym. Nid yw y pen yn fawr ond y mae pob ermig ynddo yn llawn, a chyfartal, yr hyn sydd yn hanfodol i wir fawredd. Gwallt teneu sydd arno, ac o liw gwineu, ac ychydig o'r un lliw ar ei gernau. Talcen uchel a llawn, ac yn cyfatteb i faint- ioli y pen. Aeliau ysgeifn, ac odditanynt gwelir dau lygad gloew, byw, a threiddlym yn tremio trwy ddau lygad mwy, pa rai sydd yn