Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

I. DYNION HYNOD YN EIFIONYDD GYNT A Grybwyllir YN HANES Syr JOHN WYNNE. 1. Gruffydd Fychan ab Gruffydd ab Morythig, o Benyfed yn Eifionydd, perchennog Gwely Griffri yn Mhenyfed. Ardreth y Tywysog o'r "Gwely" hwn oedd £ 3 19s. Etifeddion Gwely Griffri" neu "Gwely Gruffydd" y 36ain Iorwerth III. oedd Meredydd ab Hywel ac eraill. 2. Ievan ab Howel ab Meredydd, a Gruffydd ab Howel ab Meredydd oeddynt ddau frodyr, Efa merch Ievan ab Howel a briod- odd Howel ab Dafydd, a chafodd yn gynnysgaeth feddiannau helaeth yn Eifionydd. Ievan ab Einion, ŵyr Gruffydd ab Howel ab Meredydd, oedd gyff teulu llawer iawn o brif foneddigion Eifionydd. 3. Meredydd ab Howel oedd yn byw yng Nghefnyfan a'r Gesail Gyfarch, yn Eifionydd, ei dai ef ei hunan. 4. Howel, brawd Ievan ab Einion, a elwid Syr Howel y Fwyall, Cwnstabl Criccieth, a ffarmwr y melinau amgylchol, &c.-dywedir iddo gwympo y Brenin Ffrengig, John, oddiar ei geffyl â'i fwyall ar un dyrnod. 5. Y gwyr oedd o bobtu yn rhannu rhyw diroedd yn Eifionydd rhwng John ab Meredydd ac Ievan ab Robert Meredydd Gruffydd ab Robin ab Gruffydd ) dros John ab Lewis ab Howel ab Llewelyn Meredydd. Meredydd ab Rhys ) dros Evan ab Ieuan ab Howel ab Rhys ab Eingan Robert. Howel ab Engan ab Howel Coetmore, Penderfynwr Gorff. 20, 2il Iorwerth IV. 6. leuan ab Robin Herwr, ysbeilydd digyfraith, a gwrthryfelwr, pennaeth mintai o gyffelyb ddihirod yn Eifìonydd y mae yn Syr J. Wynn gyfysgrif o orchymyn oddiwrth Harri y i Robert ab Meredydd, a Meredydd ab Ievan ab Meredydd, a Rhys ab Tudur a Howel ab Madog ab levan, a John ab Gronw a Howel ab Ievan Fychan, i'w ddala. 7. John Owen, o Ystumccgid, etifedd Owen ab John ab Meredydd a grybwyllir fod ganddo yn ei feddiant Siartar John of Gauut yn caniatau pension i Einion ab Ithel. 8. O Robert yr Abad (brawd John ab Meredydd) a mab Mered- ydd ab Ievan ab Meredydd o ferch Einion ab Ithel, y mac yn disgyn fy nhri pencenedl (ebe Syr John Wynn o Wydir), am eu bod yn