Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CREFYDD AC AWDURDOD. Pa beth yw perthynas crefydd ac awdurdod neu awdurdod a chref- ydd ? Ym mhwy neu ymhle y mae awdurdod ein crefydd ni ? A oes gan grefydd ei hawdurdod­awdurdod di-os, di-amwys ? Dyna'r holi a'r croesholi glywir y dyddiau hyn; a llawer un yn haeru nad oes gan grefydd ei hawdurdod bellach, fod hwnnw wedi ei ddym- chwelyd gan feirniaid a beirniadaeth. Y rheol o hyn allan, meddir, ydyw i bob un wneuthur fel y byddo da yn ei olwg ei hun. Ond rhaid wrth reol a llyw mewn byd ac eglwys, neu mi wneir llong- ddrylliad o lywodraeth y naill ac o ffydd y llall. Creadur i ufudd- hau ydyw dyn, ac ni fedr byth wneuthur heb awdurdod i rodio wrtho. Ond pwy neu beth fydd yr awdurdod hwnnw ? Barnai Mair mai gwell fuasai ganddi hi ganfod corff yr Iesu yn y bedd na chael dim ond bedd gwag yno, ac am hynny safodd yno i wylo. Am ddwyn ohonynt," medda hi, fy Arglwydd i ymaith." Gwell hefyd fuasai gan aml i hen Gristion ei Feibl marw, a phob llythyren yn gywir yn ei lle, a phob sill wedi ei ysbrydoli, na'i gael o dan ddwy- law beirniaid diweddar yn llawnach ei fywyd a chroywach ei genad- wri nag erioed. Dywed yn hytrach iddynt hwythau ddwyn ei awdurdod yntau oddiarno am y tybia ei fod wedi ei gylymu wrth ddilysrwydd llythyren ei Feibl. Cyfaddefir yn rhwydd fod beirniadaeth wedi newid llawer ar bethau yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, a gwir ddigon fod llawer o ddinistrio wedi bod, ac efallai na wnawd hynny bob amser gyda'r ysbryd na'r gofal goreu. Y mae lliaws o'r hen sylfaeni wedi eu chwalu, a'r adeiladau godwyd arnynt â digon o helbul a thra- fferth wedi syrthio yn chwilfriw. Y mae oes yn codi na fyn gredu am fod na dyn na sect nac eglwys yn gorchymyn hynny; hawlia wybod ar ba beth y mae'r awdurdod hwn wedi ei seilio. Y mae ysbryd chwilio a phwyso a beirniadu fel yn cyniwair trwy awyr ein gwlad ni gan weithio ar bawb ymhobman. Ac nid drwg hynny o gwbl arwydd o iechyd ac ynni meddwl yw yn ddios. Daeth beirniadaeth Ysgryth- yrol atom gyda'r oes o'r blaen, a daeth yma i aros. Ni fedrir anwy- byddu'r canlyniadau pe meiddiem, a gwae i'r neb a geisio. Ein gwaith a'n dyledswydd ni ydyw sefyll wyneb yn wyneb â'r anhawsder, ac nid ei ysgoi. Haws feallai fyddai cerdded ymlaen ar hyd yr hen lwybrau yn ddall a ffol, neu guddio'n pennau yn y ddaear fel yr estrys; mwy dynol ydyw sefyll yn ei wyneb a mynnu ei droi yn fantais i grefydd a deall yr oes sy'n dilyn. Dyna amcenir yn hyn o bapur. Dywedir y gellir derbyn pob gwirionedd mewn un o ddwy ffordd. Dyma'r naill, ei dderbyn a'i gredu ar sail yr awdurdod sydd tu cefn