Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EDMUND PRYS A'R SALMAU CAN. Breintiwyd Cymru â lIu mawr o emynwyr rhagorol, y rhai a lwyddasant i gyfansoddi toreth o emynau cystal a goreuon unrhyw genedl. Ond nid yw y Psallwyr mor luosog, er fod amryw o honynt hwythau. Ac ymhlith y Psallwyr, fel ymhlith yr emynwyr, y mae un fel Saul, mab Cis, yn dalach o lawer na'i frodyr. Fel y mae Wil- liams Pantycelyn ymhlith yr emynwyr, felly y mae Edmund Prys ymhlith y Psallwyr. Ymddengys mai prinder emynau Cymraeg barodd i'r naill a'r llall ymgymeryd â'r gwaith y profasant eu hun- ain mor gymwys iddo. Byddwn ni yn tosturio weithiau, os nad yn chwerthin, wrth feddwl fod y Negroaid yn canu peth fel hyn- We'll chase the Devil round the stump, Ho, Hi Ho; We'll give him a kick at every jump, Ho, Hi, Ho." Heb feddwl fod ein tadau ninnau wedi bod yn canu pethau lled debyg yn y llinellau hyn- Caiff Satan ffoi. Ei drin a'i droi, Ei glymu a'i gloi, Er rhwymo a rhoi, Er maint ei ddigter ef." Ond trwy drugaredd mae'r amseroedd hynny ymhell yn y gorffennol, a ninnau o'r bradd nad ydym yn yr eithafion cyferbyniol, yn meddu ar y cyflawnder o emynau da, a'r rhai hynny yn ychwanegu yn barhaus, fel mae yr anhaws- ter erbyn hyn yw dethol o honynt. Ganwyd Edmund Prys ym Maentwrog, yn y flwyddyn 1541. Yr oedd ei rieni mewn sefyllfa dda, yn hannu o deuluoedd pendefigaidd, ac yn dirfeddianwyr. Cafodd y mab addysg dda, a graddiodd yn M.A. Dyrchafwyd ef yn yr Eglwys, a gwnaed ef yn Archddiacon yn y flwyddyn 1756. Yr oedd yn ysgolor Cymraeg gwych, ac yn un o brif feirdd ei oes. Ond er fod Edmund Prys yn ysgolor, bardd, a gwr bonheddig, ychydig fuasai yn gwybod am dano heddyw oni bai am y gwasanaeth a wnaeth i Eglwys Dduw, trwy ei Salmau Cân. Gellir dweyd mai efe oedd seren fore caniadaeth gysegredig yng Nghymru. Bu