Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni am byth i’n byd ni. Wedi cipdrem frysiog dros y maes eang hwn can- fyddir ynddo gyfoeth o drysorau, ond erys yng Nghymru yn rhy ddieithr o lawer. O ddeall y cyfnod hwn gyda'i gwestiynau a'i ddyrysbynciau cawn lawer o gymorth i ddeall amser ein Harglwydd a'r Testament Newydd. Daeth Mab Duw i wlad arbennig, ac at genedl neilltuol, ac y mae pobpeth berthyn i'r wlad honno a'r genedl honno yn yr amser hwnnw yn ein cynorthwyo i ddeall ei fywyd a'i ddysgeidiaeth yn well. Ac nid anfuddiol nac ani- ddorol ddim o gwbl deifl belydr o oleu ar fywyd a hanes ein Harglwydd yn y byd. Dyna fu'r amcan yn hyn o ys- grif. Ni chafwyd hamdden nac amser ond i gerdded yr ymylon, ac erys cynysgaeth dda i'r neb fentra i'r dwfn. Disgwylfa, Arfon. W. GRIFFITH. CYMRAEG Y BEIBL. Bu cyfieithu yr Ysgrythur i lawer iaith megis cyfodiad iddi o farw i fyw. Ceir enghraifft o hyn yn hanes bywyd y diweddar Ddr. Paton y cenhadwr. Pan laniodd efe gyntaf ar Ynys Tanna nid oedd gair o iaith y wlad erioed wedi ei ysgrifennu. Trwy arwyddion a sylw craff a chyson llwyddodd i'w dysgu, a ffurfiodd ramadeg iddi. Mawr fu ei boen i'w gwneud yn gyfrwng addas i dros- glwyddo'r Efengyl; a phan ganfu y tu dalen gyntaf o honi wedi ei argraffu rhedodd allan un o'r gloch y bore gan waeddi cyn llawened a bachgen seithmlwydd oed. Er hynny iaith paganiaid ydoedd hi eto, a chylch ei geiriau yn rhyfeddol o gyfyng. Nid oedd syniadau goruchel yr Efengyl erioed wedi gwawrio ar feddyliau eu llefarwyr, ac am hynny ni feddent eiriau i'w dangos. Nid felly yn hollol y Gymraeg. Ysgrifennid hi er's canrifoedd cýn cyfieithu y Beibl iddi, ond er hynny nid oedd wedi ei chyf- addasu i lenwi llawer cylch. Fel y canlyn yr ysgrifenna Gruffydd Roberts, gramadegwr boreuaf Cymru a chyf- oeswr William Salsbri:— "Pe gallem gael gwybodaeth wrth ddarllen llyfrau o ieithiau eraill am lawer o bethau a dalent i dyscu a'i treuthu, etto, e fydd caledi mawr pan geissier cyfieithu a throi yr unrhiw bethau i'r Gym- raeg, am fod yn brin y geiriáu gennym, er bod yr iaith o honi i hun cyn gyfoethocced ag un arall. Olrheiner