Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TEYRNGARWCH I'R IESU. DYWED Carlyle, yn ei draethawd ar Wroniaid, fod hanes y ddynoliaeth yn gynwysedig o hanes bywyd a gwaith Dyn- ion Mawr. Gellir ychwanegu fod y Dynion Mawr hyn yn fawr yn rhinwedd eu llywodraethiad gan egwyddor neu gyfuniad o egwyddorion a ddynodir gan air arbennig. Gair mawr canrifoedd cyntaf Cristionogaeth ydoedd croes Crist a gair mawr y Canol-oesoedd ydoedd ys- goleigdod." Ffydd oedd prif air canrif y Diwygiad Protestanaidd; a "rhyddid a datblygiad" prif eiriau y ganrif ddiweddaf. Beth fydd gair mawr yr oes hon,-oes a saif byth fel y fwyaf waedlyd a thrychinebus yn hanes y ddynoliaeth? Amser yn unig a ddengys. Yn ol pob golwg heddyw bydd yn rhaid iddo fod yn un o ddan-mil- wroldeb neu efengyl, teyrnfradwriaeth neu teyrngarwch, i'r Iesu. Gair a glywir yn bur fynych y dyddiau hyn yw y gair teyrngarwch." Sonnir am deyrngarwch i'n brenin, a theyrngarwch i'n gwlad a'n teyrnas. Apelia y math hwn ar deymgarwch at yr holl ddeiliaid yn ddiwahaniaeth, o'r eiddilaf ei feddwl hyd y cryfaf, o'r iselaf ei dras hyd yr uchaf, ac o'r tlotaf ei amgylchfyd hyd y cyfoethocaf. Ond fe sonnir yn aml, hefyd, am fath uwch ar deyrngarwch, sef teyrngarwch i egwyddorion dyfnaf y ddynoliaeth. Apelir atom gan oreuon pob dosbarth mewn cymdeithas am i ni fod yn deyrngarol i farn a gwirionedd, rhyddid a chyfiawnder, i frawdgarwch a chydraddoldeb; a dywedir wrthym nad adnebydd y math hwn ar deyrngarwch na brenin na gwlad. Ond gelwir ar aelodau yr eglwysi Crist- ionogol i gofio a sylweddoli fod math uwch eto ar deyrn- garwch-yr uchaf a'r puraf posibl-s'ef teyrngarwch i'r Arglwydd Iesu Grist. Yn ei ystyr wreiddiol gesyd y gair allan un o berthyn- asau pwysicaf y bywyd cenedlaethol, oblegid rhydd ddat- ganiad i'r ymdeimlad o ffyddlondeb ac ymddiriedaeth cenedl yn ei phen neu ei theyrn. Llawer mwy dymunol yw y gair Cymraeg "teyrngarwch" na'r gair Saesneg cyf- atebol loyalty," oblegid yr elfen bersonol a ddynodir ganddo. Ymlyniad cyfreithiol a adlewyrchir gan y naill ac ymlyniad personol gan y llall ac o'r ddau y gwerth- fawrocaf o ddigon yw y personol. Gwelir felly y golyga