Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

PERSON YR ARGLWYDD IESU GRIST. DYWED Martensen, yn nechreu ei gyfrol ar Ddiwinydd- iaeth Gristionogol, mai gwyddor ffydd yw diwinyddiaeth, nid yn gymaint gwyddor ynghylch ffydd, ond gwyddor oddi mewn i ffydd. Hynny yw, ni fedd neb ond y credadyn y profiad arbennig y mae diwinyddiaeth Gristionogol yn pro- ffesu bod yn eglurhad arno. Y mae hyn yn wir, mewn modd arbennig, am yr Athrawiaeth am Berson Crist. Y galon," yn y mater hwn, beth bynnag, a wna ddiwinydd" Megis mai yng Nghrist y mae Duw i'w wir adnabod, felly yn y bendithion a ddwg Efe i'r enaid crediniol, y'mae Crist i'w wir adnabod. Ni fedd neb hawl i ddweyd fod Iesu Grist yn Dduw ond yr hwn sydd wedi ei brofi Ef yn Dduw Y mae cyffesu fod Iesu Grist yn Dduw, onid yw y gyffes honno yn fynegiad o brofiad o hono, yn waeth na bod yn ddiwerth. Canys nid ein cyffes ni yw hi, mewn gwirionedd, ond cyffes rhywun arall, yn cael ei hail-adrodd gennym ni. Ni wnaeth Iesu Grist gyffes o'i Dduwdod yn amod bod yn ddisgyblion iddo Ef yn nyddiau Ei gnawd, ac ni wna hynny eto Yr hyn a ofynna Efe yn Ei ddisgybl yw cywirdeb, gonestrwydd moesol, ac awydd am ddysgu. A heddyw, fel cynt, parod yw Ef i aros yn o hir am y gyffes honno, fydd, ar y naill law, yn fynegiad o brofiad ysbrydol, ac ar y llaw arall, yn ddatganiad heb fod yn hollol anni- gonol o'r gwirionedd am ei Berson Ef. Gwyn dy fyd di, Simon, mab Jona." Nid yw yr hyn a ddywed Paul a Phedr ac Ioan, a phob credadun arall, am Iesu Grist, ond datganiad o'u profiad o Grist, ac ymgais i ddwyn allan ei ystyr, ymgais i droi y profiad yn air, yn athraw- iaeth, er budd yr holl saint. Ac nid credo y mae yn rhaid i ni ei derbyn cyn y gallwn gael ein hachub yw geiriau yr apostolion am Grist, ond cynorthwyon i'n dwyn ni i gyffyrddiad personol â Christ mewn trefn i gael ein hachub, fel y gallwn ninnau, mewn canlyniad, ddyweyd yn dda mewn gair amdano," a datgan ein bod ninnau hefyd, bell- ach, yn credu, nid am ddweyd o neb arall amdano Ef,