Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GWIBDAITH ATHRONYDDOL. FEL y derbyn y ser eu goleuni o'r haul, felly y derbyn yr Athronwyr eu gwybodaeth o haul mawr Gwirionedd. Y mae peth gwirionedd gan bob gwir Athronydd, ond nid yw'r holl wirionedd gan yr un o honynt. Ein hamcan ni yn hyn o ysgrif fydd cymryd y darllenwyr am wibdaith i fysg serathronwyr i chwilio am y gwirionedd, oblegid cylch arbennig Athroniaeth yw Gwirionedd hollol. Dyry i'r meddwl ddiangfa oddiwrth derfynau culion ein hunig- oliaeth, ie, hyd yn oed, ein cenedlaetholdeb a'n hoes ein hunain, a mewn-welediad i'r hyn sydd gyffredinol a gwrth- rychol wir. Cais Athroniaeth dreiddio i lawr islaw wyneb ac ymddangosiad pethau, i ffeindio eu hystyr a'u hanfod eithaf. Ein hamcan yw darganfod, nid yn unig yr hyn a ymddengys, ond yr hyn sydd, a phaham y mae yn bod, a chaffael y rheswm am bob peth yn natur Duw Ei Hun. Edrych llawer ar Athroniaeth fel rhywbeth hynod o ddyrys ac anamlwg, ac mor anodd fel na fedr ond ychydig ym- wneud a hi. Ond, mewn gwirionedd, nid yw Athron- iaeth yn fwy dyrys na bywyd ei hun ac y mae'r angen a orwedd odditani yn hollol syml. Mor ebrwydd ag y tyf yr ymwybyddiaeth i fod yn rhywbeth heblaw cronicl- iad noeth o argraffiadau allanol ac yr ymddengys unrhyw allu o feddwl adgynhyrchiol, yna amgylchynir y meddwl hwnnw gan bob math ar gwestiynau. Ac ymdrechir ar un- waith eu hateb. Cyfyd y dymuniad am wybod y paham ar pa fodd gyda golwg ar Hunan, Meddwl a'r'Byd. Pa fodd y saif y rhai'n yn eu perthynas a'i gilydd? Beth yw y bywyd yma yr ydym yn ei fyw; beth a olyga; beth yw yw ei amcan, a beth yw ei ddirgelwch mewnol ? Athron- iaeth yw yr ymgais i ateb y cwestiynau hyn. Honnir bod gan bob dyn meddylgar ryw fath ar Athroniaeth ac, o bosibl, mai'ei athroniaeth yw y peth mwyaf pwysig ac ym- arferol a allwn ei wybod am unrhyw ddyn. Dywed Wil- liam James ­-" Nid mater celfyddydol yw yr athroniaeth hon, yr hon sydd mor bwysig ymhob un ohonom. Ein hymdeimlad ydyw, mwy neu lai mud, o ystyr onest a