Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A mi un canoldydd o haf, ar fwrdd llong fechan, wedi ei bedyddio ar enw'r mynydd mawr y mae fy mhabell ar ei odre, sylwn yn freuddwydiol ar lannau Môn ac Arfon, megis pedfaent yn llithro'n gyflym heibio inni. Wrth graffu canfum yn yr olygfa megis dwy linell gyfochrog, neu ddau ddosbarth o luniau byw symudol. Y naill yd- oedd yr ymyl trofaog gyda'i fforestydd, ei dyddynod a'i bentrefi prydferth. Y llall, ydoedd yr olygfa eang y tu- hwnt gyda thai gwyngalchog, meysydd toreithiog, a thrumiau anwastad y mynyddoedd. Edrychai y rhai hyn hefyd, fel pe ar fedr ein canlyn, nid yn gyflym gyflym fel y lleill, eithr yn hamddenol a didroi yn ol. Y llinell agos yn y darlun byw, dyna Heddiw a'i fynd rhyfedd. Y llall, a orwedd rhyngom a'r gorwel, dyna Ddoe wedi yr el heibio. Ehedeg heibio'n chwyrn y mae'r naill, dilyn megis tynged y mae'r llall. Diflannodd yr agos, erys y pell. Write it on your heart," ebr Emerson, that every- day is the best day in the year. No man has learned any- thing rightly, until he knows that everyday is Dooms- day.' O diflannodd y presennol agos o ran y corff, erys o ran ei ysbryd, a dychwel gweithredoedd undydd wedi dyddiau lawer. Ofer dywedyd o ddyn, "aeth y peth a'r peth heibio, ni feddyliaf mwy amdano." Yn wir, dyna ddechreu'r meddwl. Dihangodd Heddiw eithr erys Doe a chyfyd ei ffurfiau lledrithiol gan lenwi cafell atgof. Tyr lleisiau ar dangnef byd yr enaid na raid wrth glust i'w clywed, ac ymrithiai golygfeydd yno, na raid wrth lygaid i'w canfod. Aeth popeth a welsom yn rhan ohonom a thrwy adwaith y mewnol ar yr allanol dylan- wedir hyd yn oed ar agwedd yr wyneb. Nid mewn un- dydd unnos y caleda'r galon nes dyfod o ddelw'r caled- rwydd hwnnw i'r amlwg. Nid mewn undydd unnos ych- waith y daw i'r llygaid lewych buddugoliaeth a thang- nefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall. Eithr y mae un peth yn gwbl sicr, p'le bynnag y dengys grudd feddwl hyfryd neu anhyfryd, gellir cymryd yn ganiataol bod ei berchen er gwell neu er gwaeth yng ngafael ysbryd- ion y gorfîennol Etifeddiaeth ehangaf dyn yw ei ber- sonoliaeth ef ei hun, a'r dalaith ddirgeledicaf yno ydyw'r is-ymwybyddiaeth. Talaith ydyw heb ei llwyr ddargan-