Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BROBLEM GENHADOL YN Y GANRIF GYNTAF A'R UGEINFED.* Yr oedd llawer agwedd i'r broblem Genhadol yn y ganrif gyntaf na chyfodasai i'r disgyblion boreaf, ac felly buddiol fydd ystyried pa fodd y tyfodd yr ymwybod a barodd idd- ynt hwy ddirnad y fraint, a'r cyfrifoldeb, a'r angenrheid- rwydd o gynnig yr Efengyl i eraill heblaw'r Iddewon. Yn ddiddadl bu amser pryd na wawriasai yr ymwybod hwn. Hefyd yr oedd anawsterau teithio'n fawr yn y dyddiau hynny; yr oedd arian yn boenus o brin; newidiai sefyllfa pethau yn barhaus yn y gwahanol gyfnodau; a safai yr amrywiol grefyddau mewn gelyniaeth chwerw yn erbyn yr ymgyrch Gristnogol. Felly gellir ymdrin â'r mater sydd gennym mewn llaw mewn llawer gwedd, ac anodd gweled y gorwel mewn unrhyw gyfeiriad. Bwriadaf gyffwrdd llwyddiant ymdrech Genhadol fel y canfyddir yn y tair canrif gyntaf, ac fel yr adnabyddir yn awr, ac enwi rhai o amodau y dyddiau hynny a ymde- bygant yn fawr i amodau y dyddiau diweddar hyn; a dang- os, yn olaf, fod y tir yn barod heddiw i'r dwyfol had. Ar ôl pwysleisio Tadolaeth Duw ni ellid osgoi dwyn y gwirionedd cyfatebol o frawdoliaeth dyn i oleuni ac am- lygrwydd. Gwir yw fod yn y byd Moslemaidd frawdol- iaeth a haedda'i ganmol. Ond peth llai chwyldroadol yw brawdoliaeth yr holl Fahometaniaid na brawdoliaeth pob dyn. Am rai blynyddoedd ar ôl ei sefydlu nid oedd Crist- nogaeth fawr ehangach na'r cyntaf; edrychid arni fel petai ddim mwy na helaethiad ar Iddewiaeth. Nid oeddys eto wedi sylweddoli ei chynnwys bydlydan ar gyfer yr hil ddyn- ol. Ond rhaid oedd amgyffred hynny yn hwyr neu yn hwyrach. Yn rhagluniaethol prysurwyd cyflawnder yr amser, a'r canlyniad fu cychwyniad Cenhadaethau Tramor. Papur a ddarllenwyd yn Saesneg yn Undeb Coleg y Bala. Gorff- ennaf, 1926, a throswyd i'r Gymraeg gan y Parch. J. J. Morgan, yr Wyddgrug.