Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

rwydd yr Efengyl. Ac y mae ei waith drwyddo draw yn enghraifft dda o werth Meddyleg pan y'i defnyddir gan ddyn yn meddu ath- rylith grefyddol. Gellir crynhoi prif bwyntiau diwinyddiaeth Frommel fel hyn: I gyrraedd sicrwydd ffydd a gobaith rhaid cychwyn oddi wrth ffeith- iau diymwad profiad. Y mae, beth bynnag bedair ffaith ddiym- wad.- i. Y ffaith o'n hymwybyddiaeth o rwymedigaeth foesol ddiam- odol-y rwymedigaeth i wneuthur yr hyn a ystyriwn yn iawn. Am- rywia barn dynion ynghylch pa pethau arbennig sy'n iawn; di- bynna'n barn ar ein haddysg, ein hamgylchedd, &c., ond y mae yr ymwybyddiaeth o rwymedigaeth i wneuthur ein dyletswydd yn gyff- redin inni bawb oll-dyma ffaith sylfaenol ein bod. 2. Ni fedr dyn gyflawni ei rwymedigaeth. Nid oes neb yn lân yn ei olwg ei hun, nac yn ddifai yng ngholwg ei gyd-ddynion. Po fwyaf byw ei gydwybod, a pho fwyaf ei ymdrech i wneuthur ei ddylet- swydd, mwyaf i gyd yw ei ymwybyddiaeth o'i fethiant. 3. Oherwydd ei tfethiant y mae mewn trueni. Cais hapusrwydd yn barhaus, ond metha ddod o hyd iddo. 4. Y mae Iesu Grist yn datguddio ffynhonnell ei rwymedigaeth (sef Duw), yn ei alluogi i'w gyfarfod, ac yn ei waredu o'i drueni, gan gynnig iddo fywyd wrth ei fodd. Y mae dadansoddiad Frommel o'r ffeithiau hyn ac o'u perthynas â'i gilydd, ynghyd a'i eglurhad ar eu hystyr, yn sicr o apelio at lawer meddwl a chalon aflonydd yn y dyddiau hyn. Diddorol iawn yw ei ymdriniaeth ar natur perthynas barhaus Duw â dyn yn ei ym- wybyddiaeth o rwymedigaeth; y modd y daw i wybod mai'r un Bod sy'n ei gyfarfod hefyd yn Iesu Grist-Duw anadnabyddus, Duw dan len yn y gydwybod, ond Duw yn wyneb agored yn Iesu Grist. Y mae ei ymdriniaeth ar nodweddion ffydd yng N>ghrist ac ar berthynas gweddi â Iesu Grist yn feistrolgar iawn. O ran sylwedd ei genadwri y diwinydd Saesneg mwyaf tebyg i Frommel ydyw y Dr. John Oman, awdur Vision and Authoríty," Grace and Personality," etc. Y mae Frommel yn haws i'w ddarllen, ond ni weithia allan ei syniadau gyda'r un treiddgarwch a llwyredd ag y gwna Oman. Mwy yw Frommel fel meddylegydd nag fel di- winydd. Byddai ei ddarllen yn baratoad da ar gyfer astudio Oman, diwinydd mwyaf ei oes mewn rhai cyfeiriadau. Y mae'r cyfieithiad y Dr. Weston yn ddarllenadwy iawn ac ych- wanegir llawer at werth y gyfrol gan ragymadrodd, a nodiadau rhag- orol y Dr. Bartlett. D. P. 1. DEWI A'R BLODYN LLO MAWR. Gan H. Idris Bell. Cyfieith- wyd gan Olwen Roberts. Y darluniau gan Katherine M. Roberts. Wrecsam Hughes a'i Fab. 1928. 9o td. 1/6. 2. CYFRES PRIFFORDD LLEN. Llyfr at wasanaeth Ysgolion gan William Rowland, M.A., Prif Athro Ysgol Sir Porthmadog. Paratowyd i'r wasg gan Moelona. Llyfr V. The Educational Publishing Comfany, Caerdydd a Wrecsam. 1928. 143 td. 2/3. 3. LLYFR Y MISOEDD. Casgliad o Straeon a Hanesion i Blant. Gan G. A. Edwards, M.A. Wrecsam: Hughes a'i Fab.. 1928. 135 td. 1/9. 4. WELSH MADE EASY. By A. S. D. Smith, M.A. (Caradar). Third Part. Wrexham Hughes and Son. I928. II5pp. Art Yellum Cover, 1/3.