Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DIWINYDDIAETH EMIL BRUNNER. I. Gŵyr pawb sy'n gyfarwydd â hanes Diwinyddiaeth ddi- weddar mai'r gwr a ddylanwadodd fwyaf arni yn ei phrif ogwyddiadau oedd Schleiermacher. Erbyn hyn, wedi hir ddisgwyl, cyfieithwyd i'r Saesneg un o'i brif lyfrau, sef Der Christliche Glaube (" Y Ffydd Gristnogol ") dan gyfarwyddyd y Dr. H. R. Mackintosh. Llyfr pwysig arall a ymddangosodd yn ddiweddar yw eiddo Emil Brun- ner, yh dwyn y teitl The Theology of Cnsis,' — sef cyf- res o anerchiadau a draddodwyd ganddo mewn gwahanol fannau yn yr Unol Daleithiau, Hydref 1928. Rhydd y gyfrol werthfawr hon drem go lawn ar ei safbwynt, ond terys ei brif lyfrau heb eu cyfieithu. Brunner yw athron- ydd y mudiad diwinyddol newydd ar y Cyfandir sy'n gys- ylltiedig ag enw Karl Barth. Yswis yw yntau fel Barth ei hun, ond yn wahanol iddo ef dewisodd aros yn ei wlad ei hun lle mae'n athro mewn Diwinyddiaeth Systematig ym Mhrifysgol Zürich. Ymgymerth Brunner yn fwy na neb arall o'i gymheiriaid at feirniadu safbwynt Schleier- macher a wreiddiai grefydd yn nheimladrwydd dwfn yr enaid. Diffiniodd grefydd fel yr ymwybyddiaeth o'n dibyniaeth hollol ar Dduw," gan ychwanegu nad oes lys (uwch na llys profiad yn bosibl. Nid system allanol a pheirianhol o athrawiaethau, defodau a thraddodiadau eg- ilwysig, oedd crefydd i Schleiermacher, ond profiad mewnol yn yr enaid. Eithr protest hefyd oedd safbwynt Schleiermacher yntau yn ei ddydd yn erbyn uniongrededd ei gyfnod, a chyfnodau'r Diwygiad Protestannaidd cyn hynny, a welsai åunio llawer o erthyglau allanol cred. Dylid ychwanegu ib'od gan Schleiermacher amcan arall mewn golwg, sef cyfreithiloni crefydd yngolwg cylchoedd diwylliant ei iddydd a hawlio ei lIe priodol iddi hithau ym mywyd dyn fel y gwyddorau cydnabyddedig eraill.